Myfyrwyr Amaethyddiaeth i ymddangos ar Countryfile

Hunlun wedi ei dynnu gan Elliw James gyda Adam Henson, Cyflwynydd Countryfile a’r myfyrwyr Dyfed Davies, Cennydd Owen Jones and Hanna Thomas; Dafydd Evans, Lynwen Mathias a Teleri Evans.

Hunlun wedi ei dynnu gan Elliw James gyda Adam Henson, Cyflwynydd Countryfile a’r myfyrwyr Dyfed Davies, Cennydd Owen Jones and Hanna Thomas; Dafydd Evans, Lynwen Mathias a Teleri Evans.

29 Chwefror 2016

Bydd grŵp o fyfyrwyr sy'n astudio Amaethyddiaeth yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymddangos ar raglen boblogaidd Countryfile BBC One ar Ddydd Sul 13 Mawrth am 7 o’r gloch yr hwyr.

Bydd y rhifyn hwn yn canolbwyntio ar ffermwyr ifanc, ac fe dreuliodd y cyflwynydd Adam Henson a’r criw amser yn ac o gwmpas Aberystwyth, gan gynnwys Fferm Trawsgoed lle bu'r myfyrwyr yn helpu gyda'r ŵyna a’r godro.

O dan arweiniad Cennydd Owen Jones roedd y grŵp yn cynnwys myfyrwyr blwyddyn 1af,  2il a 3ydd, sy'n astudio amrywiaeth o raddau amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Cennydd yn fyfyriwr blwyddyn olaf Amaethyddiaeth a Gwyddorau Anifeiliaid ac yn dod o Pontsian, Ceredigion.

Daeth Caryl Hughes sydd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth ac enillydd cyntaf ysgoloriaeth Llyndy Isaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2013, hefyd i ymuno â’r myfyrwyr ar y diwrnod.

Bu’n gyfle i Caryl i ddal i fyny gydag Adam Henson gan i’w chyfnod hi yn Llyndy gael ei ffilmio ar gyfer rhifyn blaenorol o Countryfile. Mae'r ysgoloriaeth bellach wedi'i dyfarnu i ddau arall o raddedigion Amaethyddiaeth Aberystwyth.

Os hoffech chi wybod mwy am astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, cliciwch yma.

AU7616