Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru

Aled Eurig

Aled Eurig

02 Mawrth 2016

Gan nodi canmlwyddiant gweithredu Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916 (consgripsiwn gorfodol i’r fyddin), mae Aled Eirug, cyn-bennaeth newyddion BBC a hanesydd, yn rhannu ei ymchwil Doethuriaeth ar wrthwynebiad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Trefnir y ddarlith gan Cymru Dros Heddwch ar y cyd ag Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Dyma’r ail yn y gyfres o Ddarlithoedd Dydd Mercher i gyd-fynd a’r arddangosfa gyfredol Cofio dros Heddwch, sydd i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Bydd y ddarlith dechrau 4.30, ac yn cael ei chynnal yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Campws Penglais Prifysgol Aberystwyth.

Traddodir y ddarlith hon yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd yn Saesneg.

Croeso i bawb!

AU6716