Llwyfan yn Llundain i Ymchwil Biometrig Rhamantaidd

Yr Athro Marggraf Turley a’r Athro Zwiggelaar gyda’r offer mesur data biometrig.

Yr Athro Marggraf Turley a’r Athro Zwiggelaar gyda’r offer mesur data biometrig.

27 Mehefin 2016

Mae gwaith ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth ar yr effaith emosiynol mae celf a llenyddiaeth yn ei gael ar bobl wedi’i ddewis yn un o uchelbwyntiau arddangosfa ‘Being Human’ sydd i'w gynnal yn Senate House, Llundain, Ddydd Llun 27 Mehefin, 2016.

Caiff prosiect 'Y Rhamantwyr Meintiol’ ei arwain gan yr Athro Richard Marggraf Turley o Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a'r Athro Reyer Zwiggelaar o Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol.

Gyda'i gilydd, maen nhw wedi wedi bod yn datblygu techneg i fesur ein hymateb emosiynol i gelf - yn benodol, i farddoniaeth, rhyddiaith a phaentiadau o'r cyfnod Rhamantaidd.

A yw nofelau gothig wir yn cyffroi’r galon, fel mae eu hawduron Rhamantaidd yn hawlio? A yw paentiadau o geudyllau anferthol, creaduriaid hunllefus, adfeilion abatai mewn coedwigoedd tywyll a chlogwyni creigiog wir yn codi arswyd y gellir ei fesur?

Ar drywydd atebion, mae Marggraf Turley a Zwiggelaar – ynghyd â’u Cynorthwy-ydd Ymchwil Tom Blanchard - wedi bod yn defnyddio breichled 'smart' i gasglu data biometrig ar sut mae pobl yn ymateb yn emosiynol pan maen nhw’n darllen barddoniaeth neu nofelau rhamantus, neu’n edrych ar baentiadau Gothig.

Cafodd yr ymchwil ei ddefnyddio’n gyhoeddus am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth fis Tachwedd y llynedd fel rhan o ŵyl ‘Being Human’ a welodd dros 300 o ddigwyddiadau gwahanol yn cael eu cynnal ar draws y Deyrnas Unedig.

Nawr, mae’r trefnwyr wedi dewis llond llaw o’r digwyddiadau gorau ar gyfer arddangosfa undydd yn Senate House, Llundain, Ddydd Llun 27 Mehefin 2016.

 “Mae’r digwyddiad yn Senate House yn amlygu’r arferion gorau o ymgysylltu cyhoeddus a welwyd yn ystod yr ŵyl y llynedd felly ryn ni wrth ein bodd mai ni yw un o’r pedwar prosiect sydd wedi eu dewis,” meddai’r Athro Marggraf Turley sydd hefyd yn Athro Ymgyslltu â Dychymyg y Cyhoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae’n hymchwil yn edrych ar rai o’r agweddau mwyaf diddorol o’r hyn mae’n ei olygu I fod yn ddyol yn ogystal ag yn codi cwestiynau ehangach am sut mae technoleg gyfoes yn mynd ar drywydd pobl.”

Ysgol Astudiaethau Pellach Prifysgol Llundain sy’n trefnu arddangosfa’r Ŵyl ‘Being Human’ a hynny mewn partneriaeth gyda Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dynoliaethau a’r Academi Prydeinig.