Pobl y Sioe Frenhinol yn dychwelyd

Greg Thomas

Greg Thomas

08 Gorffennaf 2016

Bydd Pobl y Sioe Frenhinol, a ddenodd lwyddiant a diddordeb na welwyd ei debyg yn Sioe Frenhinol Cymru 2015, yn cael ei ail-lansio yn y Sioe eleni.

Nod y prosiect, gwaith Greg Thomas, sy’n fyfyriwr PhD yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yw tynnu ffotograffau a chasglu straeon pobl sy’n ymweld â’r Sioe. Mae’n gobeithio adrodd straeon cyffredin ac anghyffredin, ac olrhain straeon ymwelwyr, arddangoswyr a gwirfoddolwyr sy’n dod ynghyd yn llawn brwdfrydedd i sicrhau llwyddiant parhaus y digwyddiad.

Llynedd aeth Pobl y Sioe Frenhinol ati i gasglu straeon 62 o wirfoddolwyr, staff ac ymwelwyr yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Gwelwyd y prosiect gan 197,990 o bobl o 84 o wledydd gwahanol, a’r gobaith yw ailadrodd y llwyddiant hwn.

Drwy gydol y Sioe eleni (18 – 21 Gorffennaf 2016), bydd Greg yn ôl gyda’i gamera a’i recordydd sain, yn crwydro maes y sioe yn chwilio am straeon i’w hadrodd. Caiff y straeon eu rhannu â’r cyhoedd drwy Twitter (@HumansOfTheRWS) a Facebook (www.facebook.com/humansoftheroyalwelshshow), a byddant hefyd yn cyfrannu at ymchwil PhD Greg a dyfodol y diwydiant digwyddiadau gwledig.

Bydd prosiect eleni hefyd yn gweld Greg yn sgwrsio gyda ffigurau allweddol ac yn darlledu’n fyw o Faes y Sioe ar Facebook Live.  Wrth sgwrsio am yr ychwanegiad newydd hwn i’r prosiect, dywedodd Greg: “Rwyf i’n awyddus i ddefnyddio’r dechnoleg gyfryngol ddiweddaraf i gynnig cipolwg i bobl o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn Sioe Frenhinol Cymru, a dangos y gwaith caled sy’n cael ei wneud i sicrhau mai hon yw’r Sioe orau yn y Byd i bobl ym mhedwar ban byd”.

Mae Pobl y Sioe Frenhinol yn rhan o ymchwil PhD Greg Thomas ‘Agricultural Shows: Driving and Displaying Rural Change’ yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth. Nod y prosiect yw deall rôl sioeau amaethyddol yng Nghymru heddiw. Y gobaith yw y bydd yr ymchwil hwn yn dangos y manteision a ddaw i ardaloedd gwledig yn eu sgil, eu rôl ehangach mewn newid gwledig, y ffordd y mae sioeau amaethyddol yn dwyn cefn gwlad a’r dref ynghyd a hefyd eu rôl o ran hwyluso cysylltiadau rhwng ffermwyr a Llywodraeth Cymru.

Dywed Greg: “Sioe Frenhinol Cymru yw’r digwyddiad diwylliannol mwyaf, ac yn fy marn i y gorau, yng Nghymru. Mae fy ymchwil wedi dangos bod y Sioe yn denu ymwelwyr o bob sir yng Nghymru, yn wledig a threfol, gan ddod â’r holl genedl at ei gilydd mewn dathliad o’n hetifeddiaeth wledig.

“Mae Sioe Frenhinol Cymru yn fwy na ffermio yn unig. Mae iddi naws arbennig - rhywbeth y gall yr holl genedl uniaethu ag e. Dyma’r prif ddigwyddiad amaethyddol yng Nghymru, ond yn fwy na hynny, dyma hefyd y digwyddiad mwyaf yng Nghymru o ran bwyd, ac un o’r casgliadau mwyaf o bobl yng Nghymru. Nod prosiect Pobl yw adrodd straeon rhai o’r bobl hyn.”

Mae Greg ar hyn o bryd yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn y prosiect, ac mae ganddo ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy’n mynd i’r Sioe, y rheini y mae’r Sioe yn golygu rhywbeth arbennig iddyn nhw, neu unrhyw un sydd â stori i’w hadrodd am y Sioe. Os hoffech gymryd rhan yn Pobl y Sioe Frenhinol, cysylltwch â Greg.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect PhD, i gyfrannu neu gysylltu â Greg, ceir manylion cyswllt llawn ar www.showingagriculture.co.uk.