Natasha Devon MBE, awdur, ymgyrchydd a sylwebydd teledu, yn cael ei hanrhydeddu â Chymrodoriaeth

Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth gyda Natasha Devon MBE

Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth gyda Natasha Devon MBE

13 Gorffennaf 2016

Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth i’r awdur, yr ymgyrchydd a’r sylwebydd teledu Natasha Devon MBE.

Mae Natasha yn alumna o’r Brifysgol, a hi yw sylfaenydd y Tîm Self Esteem a’r Rhaglen Addysgol Body Gossip, y naill a’r llall yn gweithio mewn ysgolion i gynorthwyo pobl ifainc yn eu harddegau, eu rhieni a’u hathrawon gyda materion iechyd meddwl a chorff-ddelwedd.

Yn 2015 dyfarwnyd MBE iddi yn rhestr Anrhydeddau Pen-Blwydd y Frenhines i gydnabod eu gwasanaethau i bobl ifainc.

Cyflwynwyd Natasha Devon yn Gymrawd ddydd Mercher 13 Gorffennaf gan Dr Sarah Riley, yr Adran Seicoleg.

Cyflwyniad Natasha Devon MBE

Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Natasha Devon yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Natasha Devon as a Fellow of Aberystwyth University.

Natasha Devon MBE is a writer, campaigner and self-styled ‘televisionpundit’. She is the founder of the campaign group Self Esteem Team and the arts and education charity Body Gossip.

Natasha is the founder of the campaign group Self Esteem Team and the arts and education charity Body Gossip.

Body Gossip delivers Education Programmes to schools to help teenagers, their parents and teachers with mental health and body image. Her classes are award-winning and to date have been delivered to more than 60,000 teenagers across the UK. Natasha’s programmes communicate psychology and critical thinking in ways that make sense and give young people the chance to develop resilience and better mental health.

Natasha’s approach is also highly political. She makes the connections between policy and psychology and communicates these brilliantly and entertainingly across a range of media including Cosmopolitan magazine, Times Education Supplement, daytime TV and twitter. She is tireless in her championing for young people and her vision of a better world. Her put downs to twitter trolls are priceless.

A measure of Natasha’s brilliance was her appointment as the government’s Mental Health Champion for Schools, in 2015 – and perhaps a stronger measure of her brilliance was that they fired her. This didn’t stop the Sunday Times and Debretts naming her in 2016 as one of the 20 most influential people in British education.

Although not from Wales, Natasha read English at Aberystwyth and remembers her time here fondly. Perhaps that’s not surprising since she shares many values associated with the Welsh people – she is community oriented and is passionate about justice. I’ve not heard her sing though.

Natasha has brought psychology and politics together in an original way and in the cause of making the world a better place and – I think – she’s also having some fun on the way.

Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Natasha Devon i chi yn Gymrawd. 

Chancellor, it is my absolute pleasure to present Natasha Devon to you as a Fellow of Aberystwyth University.

 

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2016

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2016, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 12 Gorffennaf a dydd Gwener 15 Gorffennaf.

Cyflwynir wyth Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Bydd un gradd Doethuriaeth er Anrhydedd yn cael ei chyflwyno. Cyflwynir y rhain i unigolion a fu’n eithriadol llwyddiannus yn eu maes, sy’n nodedig am eu gwaith ymchwil neu wedi cyhoeddi’n helaeth.

Cyflwynir tair gradd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Anrhydeddir y canlynol hefyd:

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Dr Catherine Bishop, enillydd Olympaidd driphlyg, diplomydd gwrthdaro rhyngwladol, siaradwr a hwylusydd profiadol

Yr Athro Julian Dowdeswell, Cyfarwyddwr Sefydliad Scott i Ymchwil y Pegynnau ac Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt

Charmian Gooch, ymgyrchydd gwrth-lygredd a chyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Global Witness

Ruth Lambert, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth, a fu’n drefnydd Gŵyl Machynlleth a rhaglen arddangosfa MOMA Machynlleth am ymron i ddeng mlynedd ar hugain

Dr Mitch Robinson, arbenigwr yn y gyfraith ryngwladol i Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau sy’n arbenigo mewn iawnderau dynol, ac alumnus o’r Brifysgol

Syr Evan Paul Silk KCB, Llywydd Grŵp Astudio’r Senedd; cyn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin, Clerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

A J S “Bill” Williams MBE (1920-2016), peilot yn yr RAF a darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a enwyd yn 2014 yn un o’r 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

Gradd Doethur er Anrhydedd:

Yr Athro Ken Walters, Athro Ymchwil Nodedig yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol, Cymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol

Graddau Baglor er Anrhydedd:

Karina Shaw, Prifathrawes Gynorthwyol yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, Cyfarwyddwr Fforwm Cymunedol Penparcau, sylfaenydd a Chadeirydd presennol grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau, a gwirfoddolwr gydag elusennau

Aled Haydn Jones, golygydd radio yng Nghymru, cyflwynydd a chyn-gynhyrchydd gyda Radio 1 y BBC, a chyflwynydd gydag S4C

Stefan Osgood (1994-2016), a gyflawnodd ac a gyfrannodd yn helaeth wrth astudio yn Aberystwyth, yn enwedig mewn chwaraeon ac fel cyfrannwr eithriadol i ymgyrch codi arian y myfyrwyr yn y brifysgol.

AU21316

Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth gyda Natasha Devon MBE

Natasha Devon MBE

Canghellor Syr Emyr Jones Parry, Natasha Devon MBE, a Is-Ganghellor Yr Athro April McMahon