Prifysgol Aberystwyth yn croesawu myfyrwyr addawol o’r Unol Daleithiau

Yr wyth myfyriwr sy’n ymweld â Phrifysgol Aberystwyth yn rhan o Sefydliad Haf Comisiwn Fulbright Cymru.

Yr wyth myfyriwr sy’n ymweld â Phrifysgol Aberystwyth yn rhan o Sefydliad Haf Comisiwn Fulbright Cymru.

18 Gorffennaf 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu wyth myfyriwr addawol o’r Unol Daleithiau, sy’n treulio pythefnos yn y Brifysgol fel rhan o Sefydliad Haf Comisiwn Fulbright Cymru.

Rhaglen ddiwylliannol ac academaidd arbennig iawn i fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau yw Sefydliad Haf Comisiwn Fulbright Cymru. Yn ei chweched blwyddyn bellach, mae’r rhaglen yn para chwe wythnos, ac yn cael ei chynnal mewn tair prifysgol yng Nghymru sydd ag enw da rhyngwladol, sef prifysgolion Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd. Cynhelir yr ymweliad eleni o 25 Mehefin - 6 Awst 2016.

Bydd y myfyrwyr yn dysgu am Gymru – ei diwylliant, ei hanes, ei gwahaniaethau daearyddol a’r rhan a fu gan ddiwydiant yn ffurfio ei thirlun hanesyddol, gwleidyddol a diwylliannol. 

Gan ddefnyddio’r adnoddau helaeth a dramatig - naturiol ac o waith dyn - sydd i’w cael ledled Cymru, bydd y myfyrwyr yn cael golwg unigryw ar yr hyn sy’n gwneud Cymru yn wlad mor ddeinamig, amrywiol a chyfareddol. 

Byddant hefyd yn dysgu am swyddogaeth Cymru o fewn i’r Deyrnas Gyfunol a’r byd ehangach ac am ddylanwadau Cymreig yn rhyngwladol.

Mae’r ymwelwyr eisoes wedi ymweld â Phrifysgol Bangor ac maent yn awr am dreulio pythefnos yn Aberystwyth yn edrych ar faterion cyfnewidiol economaidd a chymdeithasol Canolbarth Cymru, cyn symud ymlaen i Gaerdydd am bythefnos olaf y rhaglen.

Fel y dywed Gillian McFadyen o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, “Mae ganddyn nhw amserlen brysur am y pythefnos nesaf, yn ymweld â Sioe Llanelwedd, Twyni Ynys-las, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Adeiladau Llywodraeth Cymru, Nant yr Arian, Ystâd yr Hafod, a Chanolfan y Dechnoleg amgen, ar ben y seminarau a’r darlithoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Nod y rhaglen yw trefnu rhaglen academaidd gyffrous i’r myfyrwyr, er mwyn rhoi darlun iddynt o ddaearyddiaeth, diwylliant, etifeddiaeth a hanes Cymru yn ogystal â chyfle i ddatblygu eu doniau dysgu, ymchwilio a chyfathrebu eu hunain.”

Y myfyrwyr sy’n ymweld yw:

  • Hunter Barclay, Prifysgol Marshall (Gorllewin Virginia)
  • Erica Cordatos, Coleg Stonehill (Massachusetts)
  • Mariah Fallick, Prifysgol Wesleaidd Nebraska (Lincoln, Nebraska)
  • Silvia Martin, Prifysgol Illinois yn Urbana-Champain (Illinois)
  • Graeme McGuire, Prifysgol Rochester (Efrog Newydd)
  • Paris Stroud, Prifysgol Talaith Georgia (Atlanta, Georgia)
  • Emily Tatum, Prifysgol Miami (Ohio)
  • Emily Turner, Prifysgol Butler (Indianapolis)

Bu Comisiwn Fulbright yn hyrwyddo heddwch a chyd-ddealltwriaeth diwylliannol trwy gyfrwng ysgoloriaethau addysgiadol ers 1948. Mae’r Fulbright yn un o’r rhaglenni gwobrau mwyaf eu parch. Diben y Sefydliadau Haf yw cyflwyno myfyrwyr i’r Deyrnas Gyfunol ac ar yr un pryd datblygu eu doniau academaidd ac arweinyddol.

AU22516