Degawd o newid: Teledu a Chymdeithas yng Nghymru yn y 1970au
Dr Jamie Medhurst gyda theledu Philips o 1949.
29 Gorffennaf 2016
Caiff y rhai sy’n ymweld â stondin Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 10.30am fore Llun 1af Awst gyfle i glywed darlith gan Dr Jamie Medhurst ar y testun ‘Degawd o newid: Teledu a Chymdeithas yng Nghymru yn y 1970au.
Mae Dr Medhurst yn Uwch Ddarlithydd ym maes y Cyfryngau a Chyfathrebu ac yn gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ôl yr hanesydd Dr John Davies roedd y 1970au yn gyfnod o ‘gynnwrf mawr yn hanes gwleidyddiaeth darlledu yng Nghymru’. Bydd darlith Dr Jamie Medhurst yn trafod y datganiad hwn ac yn cyflwyno prosiect ymchwil newydd a gyllidir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ar hanes teledu yng Nghymru, a pherthnasedd teledu a chymdeithas yng Nghymru, yn y degawd cythryblus hwn.
Cynigir amrywiaeth o sgyrsiau, darlithoedd a gweithgareddau rhyngweithiol addas i bob oed a chwaeth ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir ar Ddolydd y Castell, Y Fenni rhwng 29ain Gorffennaf a 6ed Awst. Prifysgol Aberystwyth hefyd yw prif Noddwr y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg eleni, lle cynhelir pob math o weithgareddau ac y ceir cyfle i ddysgu mwy am ein hymchwil arloesol o safon rhyngwladol.