Cyflwyno seryddiaeth trwy gelf yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Effeithiau’r Awrora yn ‘Gronynnau’ gan ddefnyddio tafluniad fideo a drych cromennog, Jessica Lloyd-Jones 2016. Llun: Andrew Gale

Effeithiau’r Awrora yn ‘Gronynnau’ gan ddefnyddio tafluniad fideo a drych cromennog, Jessica Lloyd-Jones 2016. Llun: Andrew Gale

01 Awst 2016

Mae gosodiad celf creadigol sydd wedi’i ysbrydoli gan seryddiaeth yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni.

Crëwyd ‘Gronynnau’, creadigaeth yr artistiaid, Jessica Lloyd-Jones ac Ant Dickinson, o Ogledd Cymru, sy’n osodiad synhwyraidd o olau, lliw, opteg a sŵn, i ddathlu Pen-blwydd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn 200.

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect ehangach a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth i gyflwyno Seryddiaeth a Geoffiseg drwy’r celfyddydau, gan gyfleu gwyddoniaeth y bydysawd drwy fynegiant creadigol gan gynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth, celf, dawns a chân.

Mae’r prosiect, a ariennir gan y Gymdeithas Seryddol Frenhinol fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant y Gymdeithas, wedi’i greu mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac yn cynnwys arbenigwyr mewn Seryddiaeth a Geoffiseg o sawl sefydliad.

Mae ‘Gronynnau’ yn osodiad unigryw, ac yn ddadansoddiad creadigol o bopeth sy’n ymwneud â seryddiaeth – gan greu awyrgylch sy’n adlewyrchu prydferthwch eithriadol y cosmos.

Mae tafluniad fideo yn gorchuddio’r nenfwd a’r waliau, yn debyg iawn i blanetariwm, ond bod drych cromennog yng nghanol yr ystafell yn adlewyrchu’r holl amgylchedd oddi fewn, gan greu profiad gwirioneddol hudol. Er mai rhith yw’r animeiddio symudol a welir yn nyfnder optegol y drych, bron y gallech ei gyffwrdd. Mae’r artistiaid yn awyddus i gyfleu’r syniad o gael eich sugno i dwll du neu i ganol y bydysawd. Gan ddefnyddio meddalwedd graffigol, mae’r artistiaid yn creu effaith ffrwydradau o ronynnau’n symud ar draws ac yn chwyrlio o gwmpas yr arddangosfa. Mae’r gronynnau’n symud ac yna’n dod ynghyd mewn gwrthdrawiadau prydferth, megis sêr neu lwch rhyngserol.

Mae’r effeithiau gweledol yn lledrithiol, yn enwedig wrth eu cyplysu â lliwiau tawel sy’n ein hatgoffa o’r awrora, galaethau a nifylau’r planedau.

Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys darn o ffilm o’r haul gan NASA, ac mae hyn yn ychwanegu golau cynnes hyfryd i’r gofod, ynghyd â seinwedd sy’n gosod awyrgylch ac a gyfansoddwyd o recordiadau sain gan NASA.

Dywed yr artist Jessica Lloyd-Jones: “Roeddem yn awyddus i greu amgylchedd sy’n hypnotig a myfyrgar; gan annog y sawl sy’n gwylio i ystyried bywyd a bodolaeth neu, yn syml, i ymgolli yn yr hyn maen nhw’n ei weld, ei glywed a’i deimlo; gan ddatgysylltu o’r byd sy’n gyffredin i ni. Mae’r patrymau a welir wedi eu bwriadu i fod yn adleisiau o’r digwyddiadau wybrennol a'r prydferthwch a’r rhyfeddod a welwn ni ynddyn nhw.”

Dywedodd yr Athro Eleri Pryse, Ffisegydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir o arbenigedd mewn gwyddorau planedol a gofodol. Roedd yn fraint cael trafod rhyfeddod yr awrora, yr haul a’r gofod gyda Jessica a gweld wedyn ei dehongliad artistig o seryddiaeth, ac mae’r artistiaid wedi llwyddo i ddal dychymyg pobl o bob cefndir ac oed. Wrth arddangos y gwaith yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai, ac yna yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’n estyn allan i gynulleidfaoedd na fyddent, efallai, fel arall yn ymwneud â gwyddoniaeth.”

Arddangosir ‘Gronynnau’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni o 30 Gorffennaf i 6 Awst ar stondin rhif 526.

 

AU24216

Aurora effect within Particles installation using video projection and mirror dome. Llun: Andrew Gale

Cosmos effect within Particles installation. Llun: Andrew Gale

Jessica Lloyd-Jones looking into the large mirror of Particles installation. Llun: Andrew Gale

NASA footage of the sun within Particles installation. Llun: Andrew Gale

Explosion effect within Particles installation. Llun: Andrew Gale