Rali GB Cymru yn dod i Brifysgol Aberystwyth

Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn mynychu digwyddiad Rali GB Cymru

Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn mynychu digwyddiad Rali GB Cymru

07 Hydref 2016

Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael cyfle unwaith yn rhagor eleni i gynorthwyo gyda digwyddiad chwaraeon rhyngwladol.

Mae’r Brifysgol wedi trefnu partneriaeth gyda Dayinsure Rali GB Cymru sy’n golygu bod profiad gwaith yn cael ei gynnig i fyfyrwyr a bod y campws yn croesawu un o sioeau teithiol y rali cyn y digwyddiad mawr yn Hydref 2016.

Mae Rali GB Cymru yn cael ei chynnal yn y Canolbarth a’r Gogledd a dyma rownd cyn-derfynol Pencampwriaeth Rali'r Byd (WRC). Mae’n denu tua 80,000 o wylwyr o bob cwr, mae'n cael ei ddarlledu i dros 60 miliwn o wylwyr ledled y byd ac mae’n cyfrannu dros £10m at economi Cymru bob blwyddyn.

Dechreuodd y berthynas rhwng y brifysgol a Rali GB Cymru rai blynyddoedd yn ôl wrth i fyfyrwyr sy’n astudio twristiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth gynorthwyo yn y gwaith o gynnal arolygon yn ystod cam 'Sweet Lamb' y rali. Ers hynny mae wedi datblygu yn bartneriaeth mwy arwyddocaol ac ymarferol.

I’r myfyrwyr, mae gweithio gyda’r rali yn gyfle i wella’u sgiliau ymchwil ac i gael profiad o reoli digwyddiad mewn amgylchedd gyffrous, go iawn.

Mae’r Dr Carl Cater yn uwch ddarlithydd twristiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Nid pob dydd mae cyfle diddorol fel hyn yn codi ond mewn gwirionedd I’r myfyrwyr y mae’r diolch penna. Wnaethon ni drefnu cyfle iddyn nhw i weithio gyda’r rali ond eu gwaith caled a'u brwdfrydedd nhw wnaeth greu argraff mor dda ar y staff gan agor cyfleoedd pellach i weithio gyda’r tim. Mae profiadau fel hyn yn cynorthwyo’n addysgu ni am fod y myfyrwyr yn dysgu mewn ffordd hynod ymarferol iawn, allan yn y maes, ac maen nhw hefyd yn gallu nodi’r cysylltiad â’r WRC ar eu CV."

Mae Ben Taylor, Rheolwr Gyfarwyddwr International Motor Sports sy’n trefnu’r rali (yn ogystal â ras Fformiwla 1 Grand Prix Prydain), yn nodi’r gwaith "diwyd a phroffesiynol" sydd wedi’i gyflanwi gan fyfyrwyr twristiaeth Aberystwyth wrth gynnal y gwaith ymchwil.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i drefnwyr y rali drefnu sioe deithiol ym mis Hydref i adeiladu momentwm ar gyfer y prif ddigwyddiad. Eleni, mae Aberystwyth yn un o’r prif ganolfannau wrth I’r daith ddodd I gampws y Brifysgol ddydd Mawrth 11 Hydref. Fel rhan o’r digwyddiad, bydd un o geir y rali yn parcio y tu allan I adeilad IBERS ar gampws Penglais.

Bydd un o brif yrrwyr y rali ar gael i ateb cwestiynau ac fe fydd cyfres o sesiynau arbennig yn cael eu cynnal gyda grwpiau o fyfyrwyr.