Hacio’r Bwmpen

Hacio'r Bwmpen

Hacio'r Bwmpen

24 Hydref 2016

O fewn muriau Gothig yr Hen Goleg, bydd Clwb Roboteg Aberystwyth yn cynnal digwyddiad ‘Hacio’r Bwmpen’ Ddydd Sul 30 Hydref gan gynnig cyfle i deuluoedd gyfuno creadigrwydd gyda sgiliau dylunio cylchedau a rhaglennu cyfrifiadurol.

Caiff y gweithdy teulu ei gynnal rhwng 12:00 - 16:00 yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth ar gyfer plant rhwng 6-12 oed a’u rhieni.

“Yn ystod y dydd, byddwn ni’n dylunio pen pwmpen a gyda help ein llysgenhadon myfyrwyr byddwn ni wedyn yn cerfio’r dyluniad ar bwmpen go iawn,” esboniodd Dr Hannah Dee, sy’n uwch ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Glwb Roboteg Aberystwyth.

“Bydd teuluoedd yn dysgu am gylchedau a sodro wrth iddyn nhw wneud set o oleuadau i fynd y tu mewn i'r bwmpen ac fe fyddan nhw’n dysgu am raglennu wrth fynd ati i wneud i’r goleuadau fflachio."

Mae'r gweithdy yn rhad ac am ddim i bawb ond mae angen cofrestru gan fod nifer y llefydd yn gyfyngedig. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn gallu mynd a’u pwmpenni gartref gyda nhw( ond noder y bydd tâl bychan yn cael ei godi os am fynd a’r offer electroneg hefyd).

Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i wefan archebu Eventbrite.