Dathlu 80 mlynedd o deledu’r BBC

Dr Jamie Medhurst

Dr Jamie Medhurst

02 Tachwedd 2016

Mae Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth University wedi bod yn rhan o brosiect hanes ar-lein i nodi 80 mlynedd ers y darllediad teledu cyntaf erioed ar y BBC.

Mae’r Dr Jamie Medhurst yn un o chwe academydd sydd wedi ysgrifennu am ddigwyddiadau allweddol yn hanes teledu’r BBC - o’r Noson Agoriadol i Goroni’r Brenin Siôr VI yn 1937, datblygiad Alexander Palace a rhaglenni Gemau Olympaidd 1948.

Mae’r erthyglau wedi eu cyhoeddi mewn adran arbennig ar brif wefan y BBC, ‘The Birth of TV’,  gyda’r tudalennau’n mynd yn fyw heddiw (Dydd Mercher 2 Tachwedd) i ddathlu’r wythdeg mlwyddiant: www.bbc.co.uk/historyofthebbc/birth-of-tv

“Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser cael cyfrannu at y prosiect unigryw yma yn nodi 80 mlynedd gyntaf o deledu ar y BBC,” meddai’r Dr Medhurst sy’n Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Aberystwyth yn ogystal ag yn Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes Cyfryngau’r Brifysgol

“Fel grŵp o haneswyr cyfryngau, rydyn ni wedi cael gweld deunydd ffilm a dogfennau prin sy’n dyddio nôl i’r cyfnod cynnar pan oedd teledu eto i ennill ei le yng nghalonnau cyhoedd Prydain. Mae’n rhyfeddol meddwl mai tua pedwar cant yn unig o setiau teledu oedd â’r gallu i wylio’r darllediad cyntaf un hwnnw nôl ym mis Tachwedd 1936 a bod yn rhaid byw o fewn dalgylch o 30 milltir i Alexandra Palace er mwyn gallu derbyn lluniau.”

Ymhlith yr academyddion eraill oedd yn cydweithio ar y prosiect roedd y Dr Alban Webb a’r Athro David Hendy o Brifysgol Sussex; yr Athro Helen Wood a’r Dr Jilly Boyce Kay o Brifysgol Caerlŷr; a’r Dr Elinor Groom o Amgueddfa’r Cyfryngau, Bradford.

Fel rhan o’r dathliadau pen-blwydd, bydd y Dr Medhurst hefyd yn rhoi seminar papur ymchwil ar ddyddiau cynnar teledu. Caiff y seminar ei gynnal yn Ystafell C4, adeilad Hugh Owen yn Adran Hanes y Brifysgol am 5yp Ddydd Mercher 2 Tachwedd ac mae croeso i bawb.

Ar hyn o bryd, mae’r Dr Medhurst yn gweithio ar lyfr o’r enw The Early Years of Television and the BBC a fydd yn cael ei gyhoeddi gan wasg Prifysgol Caeredin yn 2017.

AU33116