Coroni myfyrwyr y Gyfraith yn bencampwyr Ymryson Cyfreitha Cymru

Chwith i’r Dde: Jake Moses, Y Barnwr Milwyn Jarman QC, Y Barnwr John Diehl QC a Jake Woodcock a Thlws Ymryson Cyfreitha Cenedlaethol Cymru LexisNexis yn Ffug-Lys Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth.

Chwith i’r Dde: Jake Moses, Y Barnwr Milwyn Jarman QC, Y Barnwr John Diehl QC a Jake Woodcock a Thlws Ymryson Cyfreitha Cenedlaethol Cymru LexisNexis yn Ffug-Lys Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth.

22 Tachwedd 2016

Mae myfyrwyr y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth wedi’u coroni’n bencampwyr Ymryson Cyfreitha Cymru.

Roedd y myfyrwyr trydedd flwyddyn Jake Woodcock a Jake Moses yn fuddugol yn Ymryson Cyfreitha Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth Ddydd Sadwrn 19 a Dydd Sul 20 Tachwedd 2016.

Roedd Woodcock a Moses yn cynrychioli Cymdeithas Ymryson Cyfreitha Prifysgol Aberystwyth gan wynebu cystadleuaeth gref ar eu ffordd i’r rownd derfynol yn erbyn Ysgol y Gyfraith Bangor.  

Cynhaliwyd rownd derfynol yr ymryson cyfreitha yn Llys Ffug Ysgol y Gyfraith Aberystwyth â'r barnwyr Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC ac Ei Anrhydedd y Barnwr John Diehl QC yn goruchwylio’r cyfan.

Achos cyfraith droseddol ffug oedd her y rownd derfynol a oedd yn ymwneud gyda diffynnydd 14 oed a oedd yn wynebu cyhuddiad o fod yn affeithiwr i lofruddiaeth gangland.

Hon oedd yr ail fuddugoliaeth yn olynol i Jake Moses, a oedd yn amddiffyn y teitl enillodd gyda Josh Lovell yn 2015.

Yn sgîl ennill y gystadleuaeth eto, dywedodd Jake Moses: "Rwy'n falch iawn o fod wedi ennill Ymryson Cyfreitha Cymru ar yr ail flwyddyn yn olynol. Yr wyf yn hynod ddiolchgar i’r Gymdeithas Ymryson Cyfreitha am ei holl gefnogaeth ac am drefnu penwythnos gwych - mae'n bluen yn het Ysgol y Gyfraith.

"Mae ymrysona wedi fy helpu mewn nifer fawr o ffyrdd, o siarad cyhoeddus i adolygu. Mae’n cynnig nifer o sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu defnyddio y tu hwnt i'r Llys. Ni allaf or-bwysleisio’r effaith gadarnhaol a gafodd ar fy mywyd prifysgol."

Dywedodd Jake Woodcock: "Mae cael cynrychioli Prifysgol Aberystwyth yng Nghystadleuaeth Ymrysona Cyfreithiol Genedlaethol Cymru 2016 wedi bod yn brofiad braf iawn. Mae cael bod yn aelod o’r tîm buddugol yn destun balchder a chyflawniad i mi na brofais o’r blaen, nac a fyddaf byth yn ei anghofio.  Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran a gwneud y diwrnod yn llwyddiant mawr. Byddwn yn annog unrhyw fyfyrwyr presennol a'r dyfodol sy'n astudio yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth i ymuno ag unrhyw un o'r cymdeithasau sydd ar gael ac ennill y profiad gwerthfawr yr wyf mor ddiolchgar o fod wedi ei gael."

Noddir Ymryson Cyfreitha Cenedlaethol Cymru gan LexisNexis, ac fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn 2009 gan fyfyrwyr o Aberystwyth. Hwn oedd y tro cyntaf i ymryson cenedlaethol rhwng prifysgolion gael ei chynnal yng Nghymru.

Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, mae Ymryson Cyfreitha Cenedlaethol Cymru yn denu timoedd o sawl Ysgol y Gyfraith Gymreig a’r Brifysgol Agored i gystadlu yn erbyn ei gilydd drwy ddadlau achosion cyfreithiol ffug mewn ffug-lys.

Caiff yr ymrysonau eu barnu ar sail ansawdd y cyflwyniad y dadleuon cyfreithiol, yn hytrach nag ar ennill yr achos cyfreithiol.

Dywedodd Dr Glenys Williams, Arweinydd Thema y Gyfraith a Throseddeg yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth: "Ar ôl rowndiau cynnar trwyadl o ymrysona, yr ydym yn, wrth gwrs, yn falch taw tîm o Aberystwyth sydd wedi ennill Ymryson Cyfreitha Cenedlaethol Cymru.  Gwnaeth Jake Moses a Jake Woodcock waith ardderchog o gynrychioli'r Brifysgol, ac yn ymdopi'n dda iawn gyda'r cwestiynau a daflwyd atynt gan y beirniaid. Cafodd safon yr ymrysona, ynghyd â faint o waith ac ymdrech a wnaed gan yr holl dimau ei ganmol gan y beirniaid. Diolch iddyn nhw ac i'r rhai sy'n gweithio mor galed i drefnu'r digwyddiad llwyddiannus hwn."

Gan fod y tîm buddugol yn cynnal digwyddiad y flwyddyn ganlynol, bydd Ymryson Cyfreitha Cenedlaethol Cymru yn cael ei chynnal gan Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth yn 2017.