Cyn-fyfyrwraig a raddiodd mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aber yn cyrraedd rownd gynderfynol Arlunydd Tirwedd y Flwyddyn

Kim Whitby

Kim Whitby

22 Tachwedd 2016

Bydd myfyrwraig sy’n raddedig mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth yn cystadlu yn y rownd gynderfynol Arlunydd Tirwedd y Flwyddyn sy'n cael ei darlledu heno (Nos Fawrth 22 Tachwedd) ar Sky Arts am 8 yr hwyr.

Graddiodd Kim Whitby gyda MA mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf Aberystwyth yn 2014 ac fe’i magwyd yn Aberaeron.

Mae Kim yn un o 300 o arlunwyr fu’n arddangos eu sgiliau ac yn herio 49 arlunydd arall a wahoddwyd ac wyth arlunydd proffesiynol mewn rhaglen a ddarlledwyd yn gynharach y mis hwn o Stowe, un o gartrefi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Swydd Buckingham.

Bydd y rownd gynderfynol heno yn dod o Margate, Kent, cartref oriel gyfoes Turner, lle bydd yr arlunwyr yn creu darn o waith sy’n darlunio glan môr y dref.

Os bydd Kim yn llwyddiannus, bydd hi'n mynd ymlaen i gymryd rhan yn y rownd derfynol gaiff ei darlledu nos Fawrth 29 Tachwedd am 8yh.

Cafwyd cannoedd o geisiadau ar gyfer Arlunydd Tirwedd y Flwyddyn 2016, sy'n amlygu dnoiau arlunwyr o bob cwr o Brydain ac Iwerddon, a sut y mae cefn gwlad Prydain wedi ysbrydoli cenedlaethau o arlunwyr cyfoes a hanesyddol.

Bydd yr artist buddugol yn derbyn comisiwn £10,000 i ddehongli Petworth House yng Ngorllewin Sussex ar gyfer casgliad celf cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a £500 i'w wario ar ddeunyddiau CassArt.

 

AU36416