Agor ffenest ddigidol ar y gorffennol

23 Tachwedd 2016

Mae cofnodion myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy’n dyddio’n ôl bron 150 mlynedd yn cael eu digideiddio a’u trawsgrifio er mwyn hwyluso gwaith pori a chwilio.

Mae’r cofnodion yn cael eu cadw mewn llawysgrifau rhwng cloriau lledr ac maen nhw’n dyddio nôl i 1872 pan agorodd y Brifysgol ei drysau am y tro cyntaf.

Hyd yma, mynediad cyfyng sydd wedi bod i’r cyfrolau bregus hyn a’r broses o chwilio am wybodaeth yn llafurus ar adegau.

Wedi’i ariannu drwy roddion dyngarol gan gynfyfyrwyr y Brifysgol a chyfraniad hael gan Gangen Gaerdydd o Gymdeithas Cyn Fyfyrwyr Aberystwyth, y nod yw creu cofnod electronig gwbl chwiliadwy o fyfyrwyr fu’n astudio yn Aberystwyth yn y 19eg ganrif.

Prosiect ar y cyd ydyw rhwng cangen Caerdydd o Gymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Archifau Prifysgol Aberystwyth, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyn i’r prosiect i ddigideiddio’r cyfrolau ddechrau, bu’n rhaid gwneud rhywfaint o waith cadwraeth, yn cynnwys rhoi pob cyfrol mewn blwch archifau a wnaed yn bwrpasol.

Cafodd pob un tudalen unigol o gofnodion cynnar y myfyrwyr ei digideiddio wedyn yn ddelwedd o eglurder uchel gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd y broses araf a dyfal o drawsgrifio’r cynnwys digidol yn dechrau nawr, gan ddefnyddio meddalwedd a ddatblygwyd fel rhan o’r prosiect i ddigideiddio ac adysgrifio Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru, sy’n cael ei gadw yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.

Caiff y gwaith trawsgrifio ei wneud yn y lle cyntaf gan wirfoddolwyr o gangen Caerdydd o Gymdeithas Cynfyfyrwyr Aberystwyth, a rhagwelir y bydd pobl eraill sy’n ymddiddori yn y prosiect yn gallu cynorthwyo i adysgrifio yn y misoedd sydd i ddod.  

Dywedodd Archifydd Prifysgol Aberystwyth, Julie Archer: “"Mae'n hynod gyffrous ein bod yn gallu, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr anhygoel, sicrhau bod y cyfoeth o wybodaeth sydd yn y cofrestrau yma yn agored. Bydd y gwirfoddolwyr yn elwa o ddysgu sgiliau newydd a’r ymchwilwyr yn elwa o ddeunydd nad yw wedi ei gyffwrdd hyd yma. Ac mae’n amserol iawn bod y gwaith trawsgrifio’n dechrau o ddifrif wrth i ni ddathlu wythnos Archwiliwch Eich Archif”.

Mae’r prosiect hwn yn datblygu ymhellach brosiect llwyddiannus iawn y bu gwirfoddolwyr o gangen Aberystwyth o Gymdeithas y Cynfyfyrwyr yn ymwneud ag ef, wrth iddynt dreulio nifer o ddyddiau yn cynorthwyo Archifydd y Brifysgol Julie Archer i roi enwau wrth bobl a lluniau mewn ffotograffau yn dyddio’n ôl nifer o ddegawdau.

Dywedodd Louise Perkins o Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni’r Brifysgol: “Yr wyf yn hynod ddiolchgar i gyn-fyfyrwyr Aber, ac yn arbennig aelodau cangen OSA Caerdydd sydd wedi rhoi cyllid a’u hamser i sicrhau bod y prosiect hynod ddiddorol hwn yn dod yn fyw. Mae'r Ysbryd Aber yn byw yn eu brwdfrydedd i ddysgu sgiliau newydd ar gyfer y cyfnod trawsgrifio, a’u hawydd i sicrhau bod y rhan unigryw hon o hanes cynnar Aber ar gael yn ehangach.”

Ymgyrch ar y cyd gan Yr Archifau Cenedlaethol a Chymdeithas Archifau a Chofnodion a draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yw Archwiliwch eich Archif. Mae’n cael ei chynnal 19-27 Tachwedd eleni a’r nod yw amlygu’r potensial unigryw sydd gan archifau i gyffroi pobl, i ddod â chymunedau ynghyd, ac i adrodd straeon rhyfeddol.

 

AU35116