Prifysgol Aberystwyth Mawrisiws yn cynnal cynhadledd ryngwladol ar drais yn erbyn menywod

Dr Hannah Baumeister

Dr Hannah Baumeister

24 Tachwedd 2016

Trais yn erbyn menywod fydd pwnc trafod cynhadledd ryngwladol ar Gampws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 25 Tachwedd.

Cynhelir y gynhadledd, Dileu Trais yn erbyn Menywod, i nodi Diwrnod y Cenhedloedd Unedig dros Ddileu Trais yn Erbyn Menywod.

Ymysg y cyfranwyr bydd ymchwilwyr ac ymarferwyr o’r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, India, De Affrica, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a Mawrisiws.

Dywedodd trefnydd y gynhadledd, Dr Hannah Baumeister: “Mae trais yn erbyn menywod yn cymryd llawer o ffurfiau - corfforol, rhywiol, seicolegol ac economaidd.

“Drwy drefnu'r gynhadledd hon yr wyf yn gobeithio gwneud trais yn erbyn menywod yn bwnc trafod, a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o achosion ac effeithiau, ac i hybu trafodaeth.

“Bydd y cyfnewid syniadau y mae cynhadledd ryngwladol ryngddisgyblaethol yn ei hwyluso yn herio'r agwedd oddefol at drais yn erbyn menywod ledled y byd.

“Fy ngobaith yw y bydd y gynhadledd hon yn dangos nad yw trais yn erbyn menywod yn rhan anochel o gymdeithas, a bod ei atal yn bosib ac yn angenrheidiol.”

Cynhelir y gynhadledd ar gampws Prifysgol Aberystwyth Mawrisiws, Quartier Militaire, Mawrisiws.