BRAVO - optimeiddio perfformiad cnydau bresych

Planhigion had olew yn cael eu sganio yn y Ganolfan Ffenomeg Planhigion yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth

Planhigion had olew yn cael eu sganio yn y Ganolfan Ffenomeg Planhigion yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth

12 Ionawr 2017

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn bartner arweiniol mewn prosiect newydd pum mlynedd sy’n mynd i'r afael â'r colledion sy’n effeithio ar ddau o gnydau llysiau mwyaf gwerthfawr y DU yn economaidd.

At ei gilydd mae gwerth marchnad cnydau had olew rêp a bresych y DU yn fwy na £1bn, ond mae colledion blynyddol o hyd at £230m a hynny’n bennaf oherwydd patrymau tywydd sy’n gynyddol anffafriol ac anodd eu rhagweld.

Nod cynllun optimeiddio bresych, had rêp a llysiau BRAVO, sy’n cael ei gyllido gan  Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnolegol a Biolegol y BBSRC, yw taclo’r colledion yma drwy ddatgymalu’r prosesau sy'n rheoli agweddau allweddol ar ddatblygiad y planhigion.

Caiff y wybodaeth yma ei defnyddio i gynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu mathau newydd a mwy gwydn o gnydau bresych sy’n perfformio’n well yn y cae tra’n lleihau colledion a gwastraff.

Dan arweiniad yr Athro Lars Østergaard o Ganolfan Innes John (JIC), mae prosiect BRAVO yn dwyn ynghyd arbenigedd gwyddonwyr planhigion blaenllaw yn y DU o dri sefydliad ymchwil - JIC a Rothamsted Research, Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Phrifysgol Aberystwyth a phrifysgolion Nottingham, Caerfaddon, Warwick ac Efrog.

Byddant yn cydweithio â chynrychiolwyr o’r diwydiannau had olew a garddwriaethol.

Dywedodd yr Athro John Doonan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol sy'n cael ei hariannu gan y BBSRC yn IBERS: “Mae angen i gynhyrchwyr wella gallu’r cnydau i wrthsefyll amodau amgylcheddol anffafriol a gofynion cynyddol y diwydiant bwyd o ran amseroedd cyflenwi ac ansawdd.

“Bydd IBERS yn defnyddio’r technegau delweddu biofeddygol a chyfrifiadurol diweddara i ddatgelu a manteisio ar yr amrywiaeth sydd ar gael yn y cnydau hyn, a thrwy hynny gwneud y gadwyn cyflenwi bwyd yn fwy effeithlon a chadarn.”

Mae amodau amgylcheddol yn dylanwadu ar nifer o gamau allweddol yn natblygiad planhigion gan gynnwys twf fflurgainc, blodeuo, ffrwythloniad a chynhyrchu hadau. Yn wyneb newid yn yr hinsawdd, mae'n bwysicach nag erioed bod ein cnydau yn gallu goddef newid cyflym i amodau amgylcheddol tra'n parhau i dyfu’n gryf ac yn gyson uchel eu cynhyrchiant.

Mae trafodaethau rhwng aelodau consortiwm BBSRC BRAVO a rhanddeiliaid diwydiannol wedi adnabod nifer o dargedau strategol sydd yn sensitif i batrymau tywydd cyfnewidiol o’r fath. Mae'r rhain yn cynnwys blodeuo mwy cryno, ffrwythlondeb uchel cyson o dan amgylcheddau anwadal, llai o golli cynnyrch a pherfformiad hadau mwy unffurf.

Yn ogystal â gwella dealltwriaeth sylfaenol o'r modd y mae cnydau bresych yn tyfu ac yn ymateb i'r amgylchedd, bydd y prosiect BBSRC BRAVO £4.4 miliwn yn cefnogi hyfforddiant i wyddonwyr ifanc ac yn codi ymwybyddiaeth rhanddeiliaid y diwydiant o ddatblygiadau newydd trwy weithdai geneteg, genomeg, ffenoteipio a modelu bresych.

Dywedodd yr Athro Lars Østergaard: “Wrth i’n hinsawdd newid a rhagdybiaeth y bydd boblogaeth ddynol y byd yn fwy na 9 biliwn erbyn 2050, mae'n bwysicach nag erioed bod ein cnydau yn gallu tyfu a chynhyrchu cymaint o fwyd â phosib mewn tywydd amrywiol a thymhorau sy’n amrywio o ran eu hyd. Drwy ddatrys ac archwilio'r prosesau sydd y tu ôl i nodweddion genetig pwysig mewn cnydau, byddwn yn darparu sail ar gyfer datblygu gwell cnydau bresych sy'n lleihau colledion ac yn gwrthsefyll newidiadau yn yr hinsawdd ac amodau amgylcheddol.”

Mae grantiau SLoLa (‘Strategic Longer and Larger’) y BBSRC yn cefnogi prosiectau ymchwil integredig sy'n gofyn am amserlenni hir, adnoddau helaeth a dulliau amlddisgyblaethol.

Mae'n rhaid i brosiectau a gefnogir fod yn wyddonol rhagorol, gan ddangos perthnasedd eithriadol i un neu fwy o flaenoriaethau strategol y BBSRC, dealltwriaeth o'r potensial ar gyfer effaith ac yn cael eu cynnal gan dîm ymchwil blaenllaw yn rhyngwladol.

Ychwanegodd Pennaeth Amaeth a Diogelwch Bwyd BBSRC, Dr Adam Staines:

“Mae'r cynnig hwn yn mynd i'r afael â nifer o flaenoriaethau ymchwil allweddol y BBSRC. Mae gwneud cnydau yn y DU yn fwy gwydn yn wyneb newid yn ein hinsawdd yn allweddol i gynnal cynhyrchiant yn y dyfodol a lleihau gwastraff bwyd. Mae'r grŵp hwn yn adeiladu ar fuddsoddiadau yn y gorffennol mewn gwyddoniaeth sylfaenol i blanhigion ac yn trosi’r wybodaeth hon i gnydau allweddol yn y DU, gan weithio gyda'r diwydiant perthnasol i sicrhau gwir fanteision hirdymor i ffermwyr yn y DU.”