Arddangosfa Gelf: Ffeithiau Amgen: Dehongli Gweithiau o Gasgliad yr Ysgol Gelf

'Môrddyn', Siapan, diwedd 19eg ganrif

'Môrddyn', Siapan, diwedd 19eg ganrif

22 Mai 2017

Mae arddangosfa newydd yn agor yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth heddiw (Dydd Llun 22 Mai 2017).

Mae Ffeithiau Amgen: Dehongli Gweithiau o Gasgliad yr Ysgol Gelf yn archwilio sut mae  diwylliant gweledol yn hanesyddol wedi gweithredu fel adlewyrchiad o realiti ac fel sylwebaeth gymdeithasol.

Myfyrwyr yn dilyn modiwl israddedig ‘Llwyfanu Arddangosfa’ sydd wedi curadu’r sioe.

Drwy ymateb i gyflwr gwrionedd mewn hinsawdd 'ôl-wirionedd' -a'r ffaith mai 'ôl-wirionedd' a 'swreal' oedd geiriau’r flwyddyn yn 2016 - mae Ffeithiau Amgen hefyd yn ystyried rôl curadur amgueddfa fel storïwr dibynadwy a thywysydd sy’n ennyn ymddiriedaeth.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gweithiau o gasgliad yr Ysgol Gelf gan Conrad Atkinson, Claire Curneen, Stephen Dixon, Rigby Graham, Honoré Daumier, James Gillray, Angelica Kauffmann, John Keane, Erich Lessing, Hilary Paynter, Hans Saebens, Roberto Salbitani, Paul Scott, Joe Tilson, Carole Windham a Jesse Wine.

Bydd Ffeithiau Amgen: Dehongli Gweithiau o Gasgliad yr Ysgol Gelf i’w gweld yn Oriel yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth o 22 Mai tan 29 Medi 2017. Mae’r Oriel ar agor o 10yb – 5yp ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae mynediad am ddim.

 

AU19417