Myfyriwr o Aberystwyth yn addasu technoleg sganio CT ar gyfer astudiaeth arloesol o wenith

Nathan Hughes yn y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion

Nathan Hughes yn y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion

13 Mehefin 2017

Mae technoleg sganio CT sydd yn gyffredin mewn ysbytai yn cael ei haddasu i astudio gwenith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd techneg arloesol newydd ei datblygu gan Nathan Hughes, myfyriwr israddedig ym maes Cyfrifiadureg er mwyn cael gwybodaeth newydd o ddelweddau 3D o bennau grawn gwenith.

Bydd ei waith yn cynorthwyo gwyddonwyr i ddatblygu mathau newydd o wenith a all ffynnu mewn hinsawdd sy'n newid.

Nawr mae Nathan wedi ennill Ysgoloriaeth Haf y Gymdeithas Geneteg i ddatblygu'r dechneg ar ôl iddo gwblhau’n ddiweddar lleoliad diwydiannol blwyddyn yn y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r fwrsariaeth wyth wythnos yn werth hyd at £2,500 a bydd yn ei weld yn treulio'r haf yn gweithio yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth.

Yno, bydd Nathan cymhwyso'r dechnoleg sganio CT i astudio sut mae planhigion yn cyflawni eu potensial tyfu yn ôl eu cyfansoddiad genetig.

I ddechrau, datblygodd Nathan y dechneg i fesur effeithiau gwahanol gyfundrefnau dyfrio a gwres ar gynnyrch gwenith.

Gan ddefnyddio'r cyfrifiaduron poblogaidd Raspberry Pi a meddalwedd cod agored i yrru system ddyfrhau a chyfres o gloriannau, llwyddodd Nathan i amrywio faint o ddŵr a roddwyd i blanhigion unigol a chofnodi eu cynnydd mewn pwysau.

Yna, cafodd pennau grawn gwenith y planhigion eu hastudio gan ddefnyddio technoleg sganio CT i nodi gwahaniaethau yn natblygiad y grawn.

Yn draddodiadol, byddai'r grawn unigol yn cael eu hastudio gyda llaw gan ddilyn trefn lafurus ac araf.

Mae'r dechneg newydd a ddatblygwyd gan Nathan yn galluogi'r tîm i ddadansoddi 200 o bennau grawn gwenith mewn awr - sef tua 3000 o ronynnau gwenith.

Cafodd y canfyddiadau hefyd eu cymharu â thechnegau astudio grawn traddodiadol a gwelwyd cywirdeb o 97%.

Wrth siarad am ei ysgoloriaeth, dywedodd Nathan: “Rwy'n falch iawn o fod wedi ennill Ysgoloriaeth Haf y Gymdeithas Geneteg. Gan fod gen i gefndir cryf mewn cyfrifiadureg, rwy'n teimlo fy mod yn gallu cyfrannu safbwynt unigryw at rai o gwestiynau cyfredol gwyddoniaeth planhigion. Mae cyfuno gwyddoniaeth gyfrifiadurol gyda meysydd eraill o ymchwil wedi bod o ddiddordeb i mi ar hyd yr adeg, ac arweiniodd hyn fi i wneud cais am leoliad gwaith blwyddyn yn y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion sy'n pontio gwyddor planhigion a chyfrifiadureg. Nawr rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu gwaith rwy’ wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a fy nealltwriaeth o eneteg planhigion.”

Dywedodd yr Athro John Doonan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion: “Rydym yn falch iawn bod Nathan wedi ennill bwrsariaeth mor fawreddog. Mae ei gefndir ym maes golwg gyfrifiadurol ynghyd â'i diddordeb mewn bioleg planhigion a’i ddull arloesol o ddefnyddio technoleg yn golygu ei fod yn gallu gweld cyfleoedd newydd a manteisio arnynt mewn ffyrdd newydd a cyffrous.”

Bydd Nathan, sy'n wreiddiol o Belfast yng Ngogledd Iwerddon, yn cyflwyno ei waith i gyfarfod  sydd yn cael ei gynnal gan y Gymdeithas Geneteg yng Nghaeredin ar ddiwedd mis Awst.

Ym mis Ionawr 2017, cyflwynodd Nathan ei waith ar ddyfrhau planhigion sydd yn cael ei reoli gan Raspberry Pi yng nghynhadledd FOSDEM 2017 a gynhaliwyd ym Mrwsel.

Ym mis Medi 2017 bydd yn dychwelyd i astudio blwyddyn olaf ei radd mewn Cyfrifiadureg a’i obaith yw mynd ymlaen i astudio ar gyfer PhD.

Mae rhagor o wybodaeth am Ysgoloriaeth Haf y Gymdeithas Geneteg, sy'n cael ei ariannu gan incwm o'r cyfnodolyn Genes and Development, ar gael ar-lein yma.