Ysgol Gelf Aberystwyth yn llwyfannu arddangosfa Tunnicliffe yn yr Academi Frenhinol

Yr Athro Robert Meyrick (chwith), Pennaeth a Cheidwad Celf Ysgol Gelf Aberystwyth, a Dr Harry Heuser sy’n ddarlithydd yn yr adran.

Yr Athro Robert Meyrick (chwith), Pennaeth a Cheidwad Celf Ysgol Gelf Aberystwyth, a Dr Harry Heuser sy’n ddarlithydd yn yr adran.

11 Gorffennaf 2017

Mae dau hanesydd celf o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth wedi curadu arddangosfa yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain o waith Charles F Tunnicliffe, sy’n cael ei gydnabod fel artist bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw Prydain yr ugeinfed ganrif.

Mae Second Nature: The Prints of Charles Tunnicliffe RA wedi’i llwyfannu gan yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth a Cheidwad Celf Ysgol Gelf Aberystwyth, a Dr Harry Heuser sy’n ddarlithydd yn yr adran.

Mae’r sioe i'w gweld yn Oriel Tennant yr Academi Frenhinol yn Piccadilly, Llundain, o 11 Gorffennaf hyd 8 Hydref, 2017.

Dyma'r trydydd tro i’r Athro Meyrick a Dr Heuser gydweithio gydag Academi Frenhinol y Celfyddydau.

Mae'r arddangosfa yn amlygu amrywiaeth o waith celf gan Charles F Tunnicliffe – o brintiau celfyddyd gain i’w waith celf gwreiddiol o fflora a ffawna a wnaeth ar gyfer llyfrau Ladybird yn ogystal â'i gardiau casglu ar gyfer te Brooke Bond.

Mae'r arddangosfa yn cyd-fynd â chyhoeddi cyfrol Charles Tunnicliffe RA. Prints: A Catalogue Raisonné gan yr Athro Meyrick a Dr Heuser, sy'n cynnwys dros 400 o luniau lliw mewn 336 o dudalennau.

"Roedd Tunnicliffe yn enwog am ei luniau dyfrlliw o adar, a oedd yn gywir ac yn addurniadol ond pan ddymchwelodd y farchnad ar gyfer printiau cain ddiwedd y 1920au ar ddechrau'r argyfwng ariannol byd-eang, daeth Tunnicliffe o hyd i waith yn darlunio yn y diwydiant cyhoeddi llyfrau a hysbysebu ac mae'n aml yn cael ei gofio am y darluniau hyn," meddai Dr Heuser.

"Caiff ymdrechion cynharach Tunnicliffe fel ysgythrwr ac ysgythrwr coed eu hanwybyddu'n aml. O ganlyniad, nid yw ei brintiau erioed wedi eu dogfennu; ac ni fu ychwaith werthusiad beirniadol o’i yrfa fel gwneuthurwr printiau. Mae'n catalog raisonné  o brintiau yn ceisio unioni’r cam hwnnw."

Fe dreuliodd yr Athro Meyrick a Dr Heuser flynyddoedd yn canfod ac yn cofnodi holl brintiau Charles Tunnicliffe a fu’n byw ar Ynys Môn am dros ddeng mlynedd ar hugain hyd ei farwolaeth yn 1979.

"Mae sefydlu cronoleg o brintiau Tunnicliffe yn golygu gwneud gwaith ymchwil mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat. Fe aethon ni â chrib fân drwy gofnodion arwerthiannau, catalogau arddangosfeydd a phapurau’r sawl sy’n prynu a gwerthu celf, yn ogystal â thynnu ar ddyddiaduron, nodiadau personol a gohebiaeth busnes yr artist ei hun. Yn absenoldeb argraffu yn ystod ei oes, cafodd rhai platiau copr a blociau boxwood eu hailargraffu er mwyn atgynhyrchu delwedd ar gyfer y llyfr, "meddai'r Athro Meyrick.

"Wrth fynd ati i gyrchu, dogfennu, dehongli ac arddangos gweithiau celf a deunyddiau archif sy’n anodd mynd atyn nhw, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o artistiaid Prydeinig fu’n ddylanwadol yn yr ugeinfed ganrif a meithrin gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes printiau."

Mae rhagor o fanylion am yr arddangosfa ar gael ar wefan yr Academi Frenhinol.