Bridiau newydd o feillion coch yn rhoi'r dewis i ffermwyr allu tyfu eu protein ar y fferm yn lle ei brynu

Meillion coch. Yn y blynyddoedd diweddar mae mathau newydd o feillion, sy'n gallu gwrthsefyll clefydau'n well, wedi'u datblygu yn rhaglen fridio meillion coch IBERS, gydag AberClaret ac AberChianti erbyn hyn ar y Rhestr o Laswelltydd a Meillion Cymeradwy.

Meillion coch. Yn y blynyddoedd diweddar mae mathau newydd o feillion, sy'n gallu gwrthsefyll clefydau'n well, wedi'u datblygu yn rhaglen fridio meillion coch IBERS, gydag AberClaret ac AberChianti erbyn hyn ar y Rhestr o Laswelltydd a Meillion Cymeradwy.

25 Gorffennaf 2017

Mae datblygiadau sy'n gwneud meillion coch yn wytnach ac yn fwy abl i wrthsefyll clefydau yn esbonio pam mae'r cnwd uchel ei brotein hwn yn cael ei ddefnyddio'n fwyfwy gan fusnesau da byw ym Mhrydain, yn ôl yr Athro Athole Marshall, Pennaeth Bridio Planhigion IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ac yntau'n siarad yn y Sioe Frenhinol, dywedodd yr Athro Marshall fod canolbwyntio'n fwy ar gynhyrchu protein ar y fferm yn strategaeth bwysig i ffermydd llaeth, eidion a defaid i sicrhau eu cynaliadwyedd yn y dyfodol, ac mae gan feillion coch ran bwysig i'w chwarae yn hynny o beth.

“Mae'r ansicrwydd ynghylch dyfodol cymorthdaliadau yn sgil Brecsit, a'r ffaith anochel y bydd prisiau nwyddau yn gyfnewidiol iawn, yn golygu bod angen i ffermydd da byw fod yn fwy hunangynhaliol,” meddai.

“Drwy gynnwys codlysiau cynhyrchiol iawn, megis meillion coch, wrth gylchdroi cnydau fe gynhyrchir mwy o brotein ar y fferm ei hun sy'n golygu, yn ei dro, fod angen llai o wrtaith nitrogen gwneud.”

Mae meillion coch yn godlys porthiant uchel ei brotein sy'n gallu creu cynnyrch sych uchel (12-15tDM/ha) a chanddo 18 - 22% o brotein crai o'i dyfu ar y rhan fwyaf o dir Prydain.

Yng nghanol y 1970au cyrhaeddodd gwerthiant hadau meillion ei anterth, sef rhyw 3,000 tunnell y flwyddyn, ond ynghanol y 1990au roedd yn llai na 100 tunnell y flwyddyn a hynny oherwydd ei fod yn agored i glefydau megis sclerotinia a nematodau'r coesyn, a'r ffaith bod gwrtaith nitrogen yn gymharol rad.

Erbyn hyn, mae gwerthiant hadau ar gynnydd, gyda'r galw ar hyn o bryd yn mynd tuag at ryw 500 tunnell y flwyddyn.

“Mae mwyfwy o ddiddordeb mewn meillion coch, ac mae'r mathau newydd yn golygu bod y rhywogaeth hon yn fwy deniadol i ffermwyr da byw,” ychwanegodd yr Athro Marshall.

“Bydd y mathau diweddaraf o feillion o raglen fridio IBERS yn aros yn y porfeydd am bedair i bum mlynedd, sy'n golygu eu bod yn cyd-fynd yn llawer gwell â'r gwyndonnydd tymor-canolig na'r mathau a dyfid yn y gorffennol, ac erbyn hyn mae mathau yn dod o'r rhaglen sy'n gwrthsefyll y prif glefydau yn well.”

Mae bridwyr planhigion IBERS yn defnyddio technegau moleciwlaidd i gyflymu'r gwaith dethol genynnol ac i leihau'r maint o dreialon sydd eu hangen yn y maes i adnabod y nodweddion genynnol uwch.  Mae'r rhaglen fridio bresennol yn canolbwyntio yn bennaf ar ddethol mathau o feillion coch sy'n gwrthsefyll nematodau'r coesyn a'r sclerotinia, ond sy'n cadw'r nodweddion eraill sy'n bwysig o ran agronomeg.

"Mae'r gallu i wrthsefyll y ddau bathogen allweddol hyn yn cael cyfuno â nodweddion pwysig eraill drwy ôl-groesi â deunydd bridio o'r safon uchaf," esbonia'r Athro Marshall.  “Bydd marcwyr genetig yn cael eu defnyddio i'n helpu ni i olrhain achau'r deunydd a ddetholwyd - ac felly'n sicrhau cyn lleied â phosib o broblemau mewnfridio - a hefyd i atal unrhyw ddeunydd sydd, er ei fod yn gwrthsefyll clefydau, o safon is yn agronomig.”

Yn y blynyddoedd diweddar mae mathau newydd o feillion, sy'n gallu gwrthsefyll clefydau'n well, wedi'u datblygu yn rhaglen fridio meillion coch IBERS, gydag AberClaret ac AberChianti erbyn hyn ar y Rhestr o Laswelltydd a Meillion Cymeradwy.  Mae'r bridiau hyn wedi profi eu bod yn gallu cynhyrchu cnwd sylweddol i'r bedwaredd a'r bumed flwyddyn, o gymharu â'r ddwy i dair blynedd a geir o feillion coch fel arfer.

Cynhelir cyflwyniad ar feillion coch ym mhabell IBERS Prifysgol Aberystwyth ar faes Y Sioe Frenhinol – stondin rhif CCA795 - ar Ddydd Mawrth 25ain Gorffennaf am 2.30 pm. Croeso i bawb.