Arddangosfa yn y Drenewydd yn ceisio barn y trigolion ar globaleiddio

Adeilad Pryce Jones yn y Drenewydd, cartref y busnes archebu post rhyngwladol modern cyntaf.

Adeilad Pryce Jones yn y Drenewydd, cartref y busnes archebu post rhyngwladol modern cyntaf.

18 Medi 2017

Gwahoddir trigolion y Drenewydd i drafod eu barn am effeithiau globaleiddio ar y dref mewn arddangosfa newydd sy'n agor yn ffurfiol ddydd Iau, 21 Medi 2017.

Lluniwyd arddangosfa ‘pop-up’ Elfennau’r Drenewydd; Symud gyda’r Oes gan dîm o Brifysgol Aberystwyth, ac fe’i cynhelir yn Neuadd Farchnad Y Drenewydd tan ddydd Sadwrn 30 Medi.

Fel rhan o borsiect rhyngwladol GLOBAL-RURAL yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol, mae ymchwilwyr wedi bod yn astudio 'globaleiddio bob dydd' yn y Drenewydd.

Ers 2015 mae aelodau'r tîm ymchwil wedi bod yn darganfod mwy am y Drenewydd trwy gyfweliadau, grwpiau ffocws ac ymchwil yn y maes.

Maent wedi bod yn ymchwilio i orffennol, presennol a dyfodol y Drenewydd, gan geisio darganfod beth sydd ei angen ar dref fechan i oroesi mewn oes fyd-eang.

Mae'r meysydd a gwmpesir yn cynnwys mudo i’r dref ac oddi yno, cysylltiadau masnach busnesau'r dref, ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau byd-eang, a dylanwadau rhyngwladol ar fwyd, siopa a diwylliant.

Cyflwynwyd canfyddiadau arolwg mawr a gynhaliwyd yn ystod hydref 2016 gan staff a myfyrwyr o'r Brifysgol ar ffurf adroddiad i Gyngor Tref Y Drenewydd ym mis Gorffennaf 2017.

Mae'r arddangosfa'n nodi diwedd rhan y Drenewydd o'r prosiect ehangach, meddai Dr Marc Welsh, sy'n aelod o dîm GOBAL-RURAL, ond mae hefyd yn gyfle i lunio'r cam nesaf a fydd yn cynnwys llyfr am y Drenewydd a ysgifennir yn y flwyddyn nesaf.

“Mewn llawer o ffyrd mae'r Drenewydd yn dref farchnad fach nodweddiadol, sy'n gyffredin i lawer o rannau o'r DU ac Ewrop a thu hwnt. Fel yr holl drefi eraill hyn, mae'r Drenewydd hefyd yn hollol unigryw, gyda'i hanes ei hun, ei chymysgedd ei hun o bobl a busnesau ac adeiladau, a'i phroblemau a chyfleoedd ei hun ar gyfer y dyfodol mewn byd sy'n newid yn gyflym,” meddai Dr Welsh.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar y berthynas rhwng y lleol ar byd-eang sy'n nodweddu bywyd modern, ac mae wedi ein galluogi i greu darlun o'r Drenewydd a cheisio adrodd ei stori. Yr arddangosfa hon yw ein cyfle i adrodd y stori hon yn ôl i bobl y Drenewydd a gofyn iddynt a yw'n gwneud synnwyr iddyn nhw, ac a ydynt yn uniaethu gyda hi.”

“Gyda'r ffordd osgoi newydd sy'n cael ei hadeiladu o gwmpas y dref ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfa hefyd yn cymell pobl i feddwl am y newidiadau sy'n dod, y cyfleoedd a ddaw yn eu sgîl, a sut y gallant ddylanwadu ar ddatblygiad eu tref yn y dyfodol."

Un o nodweddion canolog yr arddangosfa fydd “Lleisiau’r Drenewydd”, wal o ddyfyniadau gan aelodau o’r gymuned leol, a gobaith y trefnwyr yw bydd pobl yn manteisio ar y cyfle hwn i ychwanegu eu syniadau eu hunain ati.

Mae’r artist Caitlin Shepherd hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r tîm trwy ei phrosiect ‘Gwrando ar y Drenewydd’ sydd wedi bod yn rhoi llwyfan i leisiau pobl leol drwy gyfrwng gwaith celf sain newydd.

Bydd Caitlin yn cynnal sesiwn recordio arbennig ar ddiwrnod olaf yr arddangosfa.

Mae'r arddangosfa hefyd yn gofyn nifer o gwestiynau heriol, gan gynnwys; "Dychmygwch fod gennych £50m i'w wario ar y Drenewydd, ar beth fyddech chi'n ei wario?"

Yn aml cyfeirir at y Drenewydd/Newtown fel y 'dref newydd hynaf' gan ei bod yn gallu olrhain ei gwreiddiau yn ôl i 1282.

Gall hefyd honni ei bod yn dref  ‘fyd-eang’ hanesyddol gan taw yma y ganed y diwydiannwr a’r diwygiwr cymdeithasol dylanwadol byd-eang Robert Owen, a hi yw cartref y busnes archebu post rhyngwladol modern cyntaf a sefydlwyd gan Syr Pryce Jones

Yn sgìl diboblogi mawr rhwng diwedd yr 19eg ganrif a chanol yr 20fed ganrif, lle collodd canolbarth Cymru hyd at 40% o’i phoblogaeth, daeth y Drenewydd yn ganolbwynt i brosiect adfywio economaidd uchelgeisiol a dadleuol rhwng yn 1960 hwyr, yr 1970au a’r 1980au.

O dan nawdd Corfforaeth Datblygu Canolbarth Cymru ac wedi hynny, Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, datblygwyd ystadau diwydiannol newydd ac ystadau tai newydd i ddenu busnesau newydd wrth i gynllunwyr geisio dyblu poblogaeth y dref.

Mae astudiaeth Y Drenewydd yn rhan o'r prosiect ehangach GLOBAL-RURAL, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, sy'n edrych ar effeithiau globaleiddio ar ardaloedd gwledig ar draws y byd ac ymatebion cymunedau gwledig.

Yn ychwanegol at waith yng Nghymru, mae ymchwilwyr GLOBAL-RURAL yn gwneud gwaith maes yn Awstralia, Brasil, Canada, Tsieina, Iwerddon, yr Eidal, Kenya, Liberia, Malaŵi, Seland Newydd a Sweden.

Bydd Elfennau’r Drenewydd; Symud gyda’r Oes yn agor yn swyddogol gyda derbyniad rhwng 6:30 a 8:00 yr hwyr yn Neuadd Farchnad Y Drenewydd ar ddydd Iau 21 Medi a bydd yn rhedeg tan ddydd Sadwrn 30 Medi 2017.