Gwobr ryngwladol i ffilm gan fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth

29 Medi 2017

Mae ffilm gan fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill ‘Gwobr Myfyrwyr Rhyngwladol Gorau' yng Ngŵyl Ffilm Ddogfennol Wexford ar y 22-24 Medi 2017.

Cyfres Flog It y BBC yn dod i’r Hen Goleg

19 Medi 2017

Bydd Flog It, rhaglen henebion boblogaidd BBC One, yn cynnal diwrnod prisio am ddim yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar ddydd Iau, 19 Hydref 2017. 

Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cyn-fyfyriwr ac AS ieuengaf Lithuania

29 Medi 2017

Mae aelod ieuengaf senedd Lithwania a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn dychwelyd i Aber heddiw, dydd Gwener 29 Medi 2017, i drafod ei waith.

Brogaod saethau gwenwyn yn New Scientist Live

28 Medi 2017

Mi fydd y gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth, Dr Karen Siu-Ting, yn trafod brogaod saethau gwenwyn yn ystod sioe New Scientist Live sydd yn agor yn Llundain heddiw, dydd Iau 28 Medi 2017.

Enwi Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu

22 Medi 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2018.

Agor Drysau’r Hen Goleg

20 Medi 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o wahodd pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddarganfod mwy am yr Hen Goleg fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored 2017 sy’n cael ei gynnal dros y Sul,  23 – 24 Medi 2017.

Arddangosfa yn y Drenewydd yn ceisio barn y trigolion ar globaleiddio

18 Medi 2017

Gwahoddir trigolion y Drenewydd i drafod eu barn am effeithiau globaleiddio ar y dref mewn arddangosfa newydd sy'n agor yn ffurfiol ddydd Iau, 21 Medi 2017.

Saethwyr Aber yn anelu am lwyfan byd

18 Medi 2017

Mae dau o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn rhan o dîm Prydain a fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Saethyddiaeth 3D y Byd yn Ffrainc yr wythnos hon.


 


 

Ffisegwyr o Aberystwyth yn defnyddio adnodd pelydr-x newydd arloesol i astudio deimyntau

14 Medi 2017

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth ymhlith y cyntaf i ddefnyddio adnodd pelydr-x newydd arloesol yn un o ganolfannau ymchwil gwyddonol mwyaf datblygedig y byd.

Gwyddonwyr Aber yn dilyn oriau olaf Cassini

13 Medi 2017

Mae gwyddonwyr y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn hynt y llong ofod Cassini wrth iddi nesáu at ddiwedd ei thaith ugain mlynedd i'r blaned Sadwrn.

Cynhadledd i drafod dyfodol ieithoedd yn y DU wedi Brexit

11 Medi 2017

Wrth i’r dadlau a’r craffu  ar Fesur Gadael yr UE barhau, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar oblygiadau Brexit i bolisïau iaith.

Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd i ddatblygwyr Apple

06 Medi 2017

Mae datblygwyr meddalwedd o bob cwr o'r byd wedi ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon ar gyfer cynhadledd mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer datblygwyr meddalwedd Apple.

IBERS yn cynnal diwrnod gwybodaeth Miscanthus i ffermwyr

06 Medi 2017

Mewn ymateb i ddiddordeb cynyddol mewn Miscanthus, bydd ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal diwrnod gwybodaeth ac ymweliad maes ar gyfer ffermwyr ar ddydd Iau 28 Medi 2017.

Aberystwyth ymhlith ‘elît’ prifysgolion

05 Medi 2017

Mae Aberystwyth, un o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr, hefyd yn un o brif brifysgolion y byd am ei 'golygwedd ryngwladol' yn ôl y Rhestr Prifysgolion y Byd y Times Higher Education ddiweddaraf.

Adeiladu tŷ bêls Miscanthus cyntaf y byd

05 Medi 2017

Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth, y Ganolfan Dechnoleg Amgen a Terravesta yn edrych ar y potensial i ddefnyddio Miscanthus fel deunydd adeiladu fel ffordd o helpu i ddad-garboneiddio'r diwydiant adeiladu.

Darganfod bacteria sy’n bwyta methan o dan Antarctica

01 Medi 2017

Mae gwyddonwyr yn credu y gall bacteria sy'n bwyta methan sydd wedi eu darganfod mewn llyn o dan Antarctica atal y nwy tŷ gwydr pwerus rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer wrth i’r iâ ddadmer.