Dathlu llwyddiant eisteddfodol cyn-fyfyrwyr

01 Tachwedd 2017

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu llwyddiant ei chyn-fyfyrwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn mewn digwyddiad arbennig yn yr Hen Goleg nos Wener 10 Tachwedd.

Enillwyd pedair o brif wobrau Prifwyl 2017 - y Goron, y Fedal Ddrama, y Rhuban Glas a’r Gadair - gan Gwion Hallam, Heiddwen Tomos, Steffan Prys Roberts ac Osian Rhys.

Bydd y pedwar yn dychwelyd i’r dre lle buon nhw’n astudio ar gyfer noson o gerdd a chân i ddathlu eu llwyddiant.

Yn ymuno â nhw fydd crewr Cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn, Rhodri Owen, a raddiodd mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth.

Bydd y noson yn cynnwys cyflwyniadau o waith Gwion, Heiddwen ac Osian, a pherfformiadau gan Steffan ac aelodau o Gôr Pantycelyn.

Daw cyfraniadau hefyd gan nifer o feirdd amlwg y cylch gan gynnwys Huw Meirion Edwards, Anwen Pierce, Gruffudd Antur, Dr Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury.

Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae llwyddiant ein cyn-fyfyrwyr eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn adlewyrchu cyfraniad aruthrol Prifysgol Aberystwyth, ei staff a’i myfyrwyr, at ddiwylliant Cymru ers iddi agor drysau’r Hen Goleg am y tro cyntaf ym mis Hydref 1872.

“Roedd clywed enw’r Brifysgol yn cael ei gyhoeddi o lwyfan y Brifwyl ar bedwar achlysur gwahanol eleni yn destun balchder eithriadol i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe fydd y noson hon yn gyfle i ni ddiolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad ac i ddathlu’r cyswllt holl-bwysig hwnnw gyda’r Brifysgol.”

Cynhelir y noson yn yr Hen Goleg ar nos Wener 10 Tachwedd, a bydd yn dechrau am 7.30 yr hwyr.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond bydd angen archebu tocyn ymlaen llaw drwy wefan Tocyn Cymru www.aber.ac.uk/DathluEisteddfod2017 neu drwy gysylltu gyda Swyddfa Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus y Brifysgol ar 01970 622946 / cyfathrebu@aber.ac.uk.

Estynnir croeso cynnes i bawb.

Graddiodd Gwion Hallam o Aberystwyth ym 1994 gyda gradd mewn Drama. Erbyn heddiw, mae’n gynhyrchydd rhaglenni teledu ac yn un o gyfarwyddwyr Cwmni’r Fran Wen Cyf. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2006 am ei nofel i’r arddegau, Creadyn.

Pennaeth Cyfadran y Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul, yw Heiddwen Tomos. Graddiodd mewn Drama a Chymraeg cyn cwblhau cwrs Ymarfer Dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1999. Enillodd Heiddwen gystadleuaeth stori fer Taliesin a'r BBC yn 2015, ac chipiodd Gadair Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ddwywaith.

Yn ogystal â gweithio i dîm trefnu Eisteddfod yr Urdd, mae Steffan Prys Roberts hefyd yn parhau â’i addysg yng Ngholeg Cerdd a Drama Guildhall, Llundain. Astudiodd radd mewn Rheolaeth Cefn Gwlad yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n gyn-Lywydd UMCA (2009-2010).

Mae Osian Rhys yn aelod o dîm Y Glêr ar gyfres Talwrn y Beirdd ac yn gynhyrchydd a golygydd digidol, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Brifysgol Caerdydd. Graddiodd mewn Cymraeg a Hanes Cymru o Aberystwyth ac mae’n gyn-Lywydd UMCA (2004-2005).

Graddiodd Rhodri Owen o Aberystwyth mewn Celfyddyd Gain yn 2004. Bellach mae’n gweithio fel saer coed o’i weithdy yn Ysbyty Ifan. Defnyddiodd goed o Yr Ysgwrn, cartref Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn), enillydd Cadair Ddu Penbedw yn 1917, i creu cadair 2017.