Prifysgol Aberystwyth yn peilota rhaglen llesiant i fyfyrwyr

(Ch-Dd) Athro Jo Hamilton, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr IBERS; Samantha Glennie, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Ian Keirle, darlithydd a chydlynydd modiwl yn IBERS; Molly Longden, Swyddog Llesiant Undeb Myfyrwyr Aberystwyth; Caryl Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr, a Lou Hardinge, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

(Ch-Dd) Athro Jo Hamilton, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr IBERS; Samantha Glennie, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Ian Keirle, darlithydd a chydlynydd modiwl yn IBERS; Molly Longden, Swyddog Llesiant Undeb Myfyrwyr Aberystwyth; Caryl Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr, a Lou Hardinge, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

10 Tachwedd 2017

Mae cyfres o weithdai llesiant yn cael eu cynnig i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf Prifysgol Aberystwyth fel rhan o beilot arloesol ar y cyd gyda'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.

Fel rhan o fodiwl ar sgiliau academaidd a chyfathrebu, mae'r Brifysgol a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cydweithio i gyflwyno cwrs ar ymdopi gyda straen a phryder lefel-isel.

Cynlluniwyd cwrs ACTIVate Your Life ar gyfer y GIG gan yr Athro Neil Frude sy’n gweithio fel Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghymru.

Y nod yw helpu unigolion i ymdopi gydag ystod o faterion emosiynol megis pryder, straen, diffyg cymhelliant, iselder a hunanhyder.

Caiff y cwrs ei gyflwyno i oddeutu 350 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy'n astudio yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Aberystwyth (IBERS).

Bydd staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflwyno pedair sesiwn ddwy awr o hyd fel rhan o fodiwl deg credyd ehangach sy'n dysgu Sgiliau Astudio a Chyfathrebu.

Un o'r trefnwyr yw’r Athro Jo Hamilton, Cyfarwyddwr Profiad y Myfyrwyr yn IBERS: "Mae iechyd a llesiant yn effeithio ar sut mae myfyriwr yn perfformio’n academaidd felly ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn arddel dull cyfannol at addysg uwch - gan ddatblygu'r myfyriwr cyfan nid y myfyriwr academaidd yn unig. Gall y cwrs hwn helpu i normaleiddio straen a phryder bob dydd, gan roi canllawiau cymorth i fyfyrwyr a fydd yn eu cynorthwyo i ymdopi â phwysau bod yn y brifysgol yn ogystal â datblygu sgiliau gwydnwch gydol oes."

Mae'r cwrs ACTIVate Your Life eisoes wedi'i gyflwyno gan y GIG ar draws ystod o fudiadau a sefydliadau yng Nghymru, ond dyma'r tro cyntaf iddo gael ei ymgorffori fel rhan o fodiwl prifysgol.

Dywedodd Karon Loveday, Rheolwr Tîm Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol Ceredigion sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "I lawer o bobl ifanc, mae gadael cartref a mynd i'r Brifysgol ywn un o gyfnodau mwyaf cyffrous eu bywydau, ond gall hefyd ysgogi teimladau o bryder a straen - wedi'r cwbl, gall bod yn gwbl annibynnol a thalu eich rhent a'ch biliau eich hun, tra hefyd yn cynnal gofynion bywyd academaidd a chymdeithasol prysur, fynd yn drech.  

"Bwriad y cwrs hwn yw helpu myfyrwyr i ddelio â theimladau ac emosiynau nad ydynt o reidrwydd wedi eu profi o'r blaen neu'n barod ar eu cyfer, a'r nod yw eu cynorthwyo nhw i hunan-reoli a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni eu potensial."

Dywedodd Lou Hardinge, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae'r peilot hwn yn enghraifft o gydweithio arloesol rhwng Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol, IBERS a staff proffesiynol o’r gwasanaethau statudol. Mae'n gyfle gwych i'r myfyrwyr hynny sy'n cymryd rhan i fanteisio ar ymyriad seico-addysgol profedig. Rydyn ni i gyd yn dod ar draws trafferthion ac anawsterau yn ein bywydau, a bydd y rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau hunanofal, fydd yn eu galluogi i ddelio’n rhagweithiol â'r heriau maen nhw’n eu hwynebu. "

Bydd gofyn i fyfyrwyr lenwi holiadur cyfrinachol cyn ac ar ôl cymryd y cwrs, gyda’r canlyniadau'n cael eu gwerthuso gan y tîm. O gael adborth cadarnhaol, bydd y Brifysgol yn ystyried cyflwyno'r cwrs ACTIVate Your Life i fyfyrwyr ar draws y sefydliad.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth trwy ei Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr, gan gynnwys gweithdai, sesiynau galw heibio a sesiynau cwnsela.

Dywedodd Caryl Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae yna dipyn o naid rhwng ysgol uwchradd a gadael cartref i ddechrau bywyd annibynnol yn y brifysgol. I lawer, mae'n golygu byw i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf, gan ddysgu i astudio ac ymchwilio heb gyfarwyddyd, arholiadau, rheoli cyllid ac amser. Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod ein myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwydnwch sy’n eu helpu nhw i ymdopi â heriau bywyd prifysgol, ond rydyn ni hefyd eisiau iddyn nhw fod yn ymwybodol o'r gwasanaethau eraill sydd ar gael os bydd angen help ychwanegol arnynt naill ai ar y campws neu o du’r gwasanaethau statudol."

Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Cymorth Myfyrwyr y Brifysgol ar gael ar-lein.