Ychydig berswad i’r cyfeiriad cywir?

15 Tachwedd 2017

Mae moeseg defnyddio damcaniaeth ‘nudge’ neu ‘berswad’ er mwyn llywio polisi cyhoeddus yn cael sylw mewn llyfr newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Mae Neuroliberalism: Behavioural Government in the 21st Century yn astudiaeth feirniadol o’r syniadau a welodd ddyfarnu Gwobr Heddwch Nobel ym maes Gwyddoniaeth Economaidd i’r Athro Richard Thales yn Hydref 2017.

Cydnabuwyd cyfraniad egwyddorion ‘perswad’ wrth gymell mwy a mwy o bobl i roi’r gorau i ysmygu, ac maent wedi eu defnyddio wrth ddylunio llefydd bwyta er mwyn hyrwyddo bwyta’n iach.

Cawsant ddylanwad hefyd ar y drafodaeth am y gofrestr roddi organau arweiniodd at ddeddfu o blaid option i mewn, yn hytrach nag optio allan, yng Nghymru.

Dywedodd prif awdur y gyfrol, yr Athro Mark Whitehead, o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: "Prif ffocws y llyfr yw’r ystyriaeth a roddir i’r modd y mae’r gwyddorau seicolegol ac ymddygiadol yn llunio polisïau cyhoeddus trwy dechnegau megis ‘perswad’.

“Er ein bod ni'n teimlo bod gan y gwyddorau seicolegol ac ymddygiadol lawer i'w gynnig i'r rhai sy'n gyfrifol am gyflwyno polisïau cyhoeddus, yn y llyfr hwn rydym yn edrych ar yr amrywiol heriau moesol a chyfansoddiadol a ddaw yn sgil polisiau cysylltiol, a'r rhesymau pam nad yw’r polisïau hyn mor llwyddiannus â’r disgwyl”.

Mae'r llyfr wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol gan Cass Sunstein, a fu'n arwain Swyddfa Gwybodaeth a Materion Rheoleiddiol Barack Obama, lle cafodd nifer o'r mentrau polisi hyn eu profi yn yr Unol Daleithiau.

Mae'r Athro Sunstein yn disgrifio'r llyfr fel cyfrol “anhepgor a phrofoclyd i bawb sy’n ymddiddori mewn gwyddoniaeth ymddygiadol a'r effaith gynyddol ar fywyd bob dydd. Mae’n cynnig trosolwg gwych, llawn ffeithiau, yn wirioneddol wreiddiol, ac mae'n cyflawni tric twt. Mae hi'n gyfrol sydd yn taflu goleuni ar y pwnc ac yn llawer o hwyl ar yr un pryd.”

Mae'r llyfr wedi'i gyhoeddi yn y cyfnod sy’n arwain at lansiad ffurfiol Canolfan Ymchwil Mewnwelediadau Ymddygiadol Aberystwyth.

O dan arweinyddiaeth yr Athro Rhys Jones a’r Athro Mark Whitehead, mi fydd y tîm amlddisgyblaethol hwn yn cynnal ymchwil ac addysgu ym maes ymddygiad dynol a sut y gellir eu trosi’n bolisïau cyhoeddus effeithiol a moesegol.

Yn ddiweddar, bu un o awduron y llyfr, a'r ymchwilydd arweiniol ar fewnwelediadau ymddygiadol ac ymwybyddiaeth ofalgar, Rachel Lilley, yn cyflwyno gwaith a wnaed ganddi hi a thîm Prifysgol Aberystwyth yn Llywodraeth Cymru, mewn cynhadledd yn San Steffan.

Roedd nifer o wleidyddion o’r DU a thu hwnt yn bresenol yn y digwyddiad a oedd yn cynnwys cyflwyniad gan un o siaradwyr blaenllaw ymwybyddiaeth ofalgar, Jon Kabat Zinn.

Mae'r gwaith, sydd yn cael ei drafod yn y llyfr ac yn cael ei gydnabod o safon byd, yn ffordd o wneud economeg ymddygiadol yn fwy effeithiol a moesegol trwy ei addysgu i wneuthurwyr polisi gan ddefnyddio addysgeg ystyriol.

Cyhoeddir Neuroliberalism: Behavioural Government in the 21st Century gan Routledge.

Mae’n ganlyniad wyth mlynedd o ymchwil a dderbyniodd gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Leverhulme a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Yr awduron yw'r Athro Mark Whitehead, yr Athro Rhys Jones a Rachel Lilley o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, Dr Jessica Pykett o Ysgol Daearyddiaeth, y Ddaear a'r Gwyddorau Amgylcheddol Prifysgol Birmingham a Dr Rachel Howell o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol Prifysgol Caeredin.