Cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn rownd gynderfynol Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn

Tom Voyce

Tom Voyce

28 Tachwedd 2017

Mae myfyriwr sy’n raddedig mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rownd gynderfynol Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn, sy’n cael ei darlledu heno (nos Fercher 29 Tachwedd) ar Sky Arts am 8 yr hwyr.

Graddiodd Tom Voyce gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Ysgol Gelf Aberystwyth yn 2012, ac aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain yn 2014.

Roedd Tom yn un o 48 arlunydd proffesiynol ac amatur a ddewiswyd ar gyfer y rowndiau rhagbrofol sy’n cael eu darlledu ar y teledu.

Yn y chweched a’r olaf o rowndiau rhagbrofol y gyfres, a ddarlledwyd ar sianel Sky Arts ddydd Mercher 22 Tachwedd, roedd Tom yn cystadlu yn erbyn tri arlunydd amatur arall a phedwar arlunydd proffesiynol. Cynhaliwyd y rownd honno ar ynys Pen Pyrod ar Benrhyn Gŵyr, Sir Benfro, ac roedd gan y cystadleuwyr bedair awr i ddarlunio’r olygfa arfordirol ar gynfas.

Dim ond saith arlunydd sydd ar ôl bellach, ac yn y rownd gynderfynol heno, a ffilmiwyd yn Castle Farm yng Nghaint, bydd y cystadleuwyr yn darlunio golygfa’r caeau lafant sy’n gorchuddio 90 erw o dir.

Dywedodd Tom, sydd hefyd yn athro celf a dylunio yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Cheslyn Hay: “Gallaf ddweud yn bendant fy mod wedi mwynhau fy amser yn Aber, ac yn yr Ysgol Gelf yn arbennig. Roedd gen i diwtoriaid ardderchog a wnaeth fy helpu i ddatblygu a thyfu, fel arlunydd yn ogystal ag fel person. Bu hyn yn sylfaen ar gyfer popeth sydd wedi digwydd wedi hynny. 

“Ar ôl cwblhau fy ngradd Meistr, bum yn ddigon ffodus i weithio yn yr Ysgol Gelf fel technegydd. Roedd hyn yn golygu bod modd i mi fanteisio i’r eithaf ar yr adran unrhyw bryd, yn ogystal â chael profiad gwerthfawr yn dysgu ar lefel Addysg Uwch. Yn sgil hyn bu modd i mi fynd i Brifysgol Huanghuai yn Zhumadian, Tsieina fel darlithydd gwadd – profiad hyfryd a’m paratôdd ar gyfer y byd dysgu.”

Dywedodd Dr June Forster, tiwtor yn Ysgol Gelf Aberystwyth:  “Ysbrydolwyd Tom gan y dirwedd leol, ac fe fyddai’n dychwelyd dro ar ôl tro i leoliadau penodol, i graffu ar y newidiadau tymhorol o ran y lliwiau a’r awyrgylch ac i chwilio am gyfansoddiadau anghyffredin. Roedd yn deall mor bwysig oedd ymchwilio i dechnegau ei hoff artistiaid a darlunio drwy arsylwi’n uniongyrchol yn gyson.  

“Roedd bob amser yn awyddus i ymuno â dosbarthiadau ychwanegol trwy gydol ei amser yn yr Ysgol Gelf. Ar un achlysur cofiadwy aeth gyda myfyrwyr y flwyddyn gyntaf i Borth yng nghanol y gwynt a’r glaw, gan greu astudiaeth hynod atmosfferig, yn llewys ei grys, tra bod pawb arall yn edrych am rywle i gysgodi! Mae’n bleser gweld Tom yn gweithio mor frwdfrydig ar y teledu yn amlygu’r un cariad at baent ag a ddangosodd pan oedd yn fyfyriwr israddedig.”

Cafwyd cannoedd o geisiadau ar gyfer Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn 2017, sy'n amlygu doniau arlunwyr o bob cwr o Brydain ac Iwerddon, a sut y mae cefn gwlad Prydain wedi ysbrydoli cenedlaethau o arlunwyr cyfoes a hanesyddol.

Bydd yr arlunydd buddugol yn derbyn comisiwn £10,000 i baentio’r panorama o Firefly, cartref y dramodydd a’r artist o fri, Syr Noël Coward, yn Jamaica, a £500 i’w wario ar ddeunyddiau Cass Art.

Yng nghystadleuaeth Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn y llynedd, cyrhaeddodd cyn-fyfyriwr arall o Aberystwyth, Kim Whitby, rownd derfynol y gystadleuaeth.

 

AU42117