Cynhadledd ar drawsrywedd yn cyrraedd rhestr fer gwobrau cydraddoldeb

Cyfranwyr All Our Trans Tomorrow (o'r chwith i'r dde) Kate Rose o Lywodraeth Cymru, Kate Hutchinson o Diversity Role Models, Crash Wigley o Stonewall Cymru, CN Lester, Debra Croft, cyn Gyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth a Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Swyddog Cydraddoldeb Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth.

Cyfranwyr All Our Trans Tomorrow (o'r chwith i'r dde) Kate Rose o Lywodraeth Cymru, Kate Hutchinson o Diversity Role Models, Crash Wigley o Stonewall Cymru, CN Lester, Debra Croft, cyn Gyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth a Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Swyddog Cydraddoldeb Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth.

11 Mai 2018

Mae cynhadledd i gefnogi pobl drawsryweddol a’u cynghreiriaid a drefnwyd gan Brifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer am wobr.

Mae All Our Trans Tomorrows wedi ei chynnwys ar restr fer Categori Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Gwobrau Adnoddau Dynol y Prifysgolion (UHR) 2018.

Darparwyd yn y gynhadledd un dydd, a oedd yn cynnwys areithiau a gweithdai gan academyddion ac actifyddion trawsrywedd, adnoddau i hysbysu staff proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd am y materion sy’n wynebu pobl drawsryweddol.

Denodd yr achlysur, a oedd yn rhad ac am ddim, athrawon cynradd ac uwchradd, unigolion sy’n gweithio o fewn y sector gofal cymdeithasol, yn ogystal â staff a myfyrwyr y Brifysgol.

Cynhaliwyd y gynhadledd, y cyntaf o’i bâth yng Nghymru, gan dîm Cydraddoldeb ac Amrywioldeb adran Adnoddau Dynol y Brifysgol ym mis Tachwedd 2017.

Dywedodd Ruth Fowler, Swyddog Cydraddoldeb a Chyfathrebu yn yr adran Adnoddau Dynol a Chadeirydd grŵp cynllunio’r gynhadledd: “Roeddem wrth ein boddau i drefnu a chroesawu cymaint o bobl i'r gynhadledd flaengar hon ym mis Tachwedd 2017.

"Mae lefel y gefnogaeth a'r adborth positif – 97% o’r mynychwyr yn sgorio’r gynhadledd yn wych neu’n dda -  wedi ein galluogi i ddechrau cynllunio cynhadledd Hydref 2018. Rwy’n falch iawn o waith caled y grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Brifysgol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill o Ganolbarth Cymru, a gyfrannodd at sicrhau bod y digwyddiad yn mynd yn ei flaen ac yn derbyn yr enwebiad hwn. "

Cynhelir Gwobrau Adnoddau Dynol y Prifysgolion (UHR) 2018 yng nghynhadledd flynyddol UHR ym Mryste, ddydd Iau 24 Mai 2018.

Un elfen yn unig o strategaeth cydraddoldeb ehangach y Brifysgol yw All Our Trans Tomorrows.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi dringo 200 safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.

Ym mis Ionawr 2018 roedd Prifysgol Aberystwyth ymysg 100 cyflogwr gorau Stonewall am gynhwysoldeb yn y gweithle, gan ddringo 60 lle i safle 56 yn y DU, a’r 8fed brifysgol orau.