Microbau sy’n ffurfio cerrig - y da, y drwg a’r hyll

31 Mai 2018

Microbau sy’n ymwneud â chynhyrchu sement, gweithiau celf, adferiad amgylcheddol, difrod i adeiladau, cyrydiad a ffurfiad cerrig yn yr arennau fydd ffocws darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 6 Mehefin 2018.

Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi Eisteddfod yr Urdd

25 Mai 2018

Mi fydd Prifysgol Aberystwyth yn dangos eich chefnogaeth unwaith eto i ŵyl ieuenctid fwyaf Cymru yr wythnos nesaf, wrth i filoedd o eisteddfodwyr ifanc gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.

Y Nîl Oriog: 6,000 o Flynyddoedd o Newid Amgylcheddol yng Ngogledd Swdan

23 Mai 2018

Bydd y cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth ac Athro Daearyddiaeth Ffisegol o Brifysgol Manceinion, yr Athro Jamie Woodward, yn dychwelyd i Aber yr wythnos hon i draddodi’r ddiweddaraf yng nghyfres darlithoedd canmlwyddiant yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

S4C yn darlledu dogfen myfyrwraig

23 Mai 2018

Mae ffilm fer arobryn a wnaed gan fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yn cael ei darlledu ar S4C.

Trafod ymchwil Aberystwyth ar raglen Today

17 Mai 2018

Cafodd staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth eu holi ar gyfer rhifyn arbennig o brif raglen newyddion BBC Radio 4 Today a ddarlledwyd yn fyw o'r campws ddydd Iau 17 Mai 2018.

Cynhadledd ar drawsrywedd yn cyrraedd rhestr fer gwobrau cydraddoldeb

11 Mai 2018

Mae cynhadledd i gefnogi pobl drawsryweddol a’u cynghreiriaid a drefnwyd gan Brifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer am wobr.

Profiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy lythyrau caru

10 Mai 2018

Mi fydd llythyrau caru myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth a’i chariad oedd yn filwr yn rhan o astudiaeth o bwys ar effaith Y Rhyfel Mawr ar bobl a chymunedau Aberystwyth. 

Hayley Long, awdures a chyn-fyfyrwraig o Aberystwyth, yn ennill Gwobr Tir na n-Og

10 Mai 2018

Yr awdures lwyddiannus, Hayley Long, a dreuliodd gyfnod yn neuadd Pantycelyn ac a raddiodd mewn llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aberystwyth yn 1992 yw enillydd gwobr Tir na n-Og 2018.

Ffilm hunlun yn ennill Gwobr Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain

04 Mai 2018

Mae ffilm am ddyfodol y diwylliant hunlun a gynhyrchwyd gan ddau ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn canmoliaeth am “safon uchel iawn y cynhyrchiad” gan feirniaid Gwobrau Dysgu ar Sgrin, Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain 2018.

Ymddygiad ewn ac ymsodol yn golygu bod adar yn fynnu mewn dinasoedd

08 Mai 2018

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Sam Hardman a Dr Sarah Dalesman yn trafod sut y mae adar yn addasu eu hymddygiad mewn ymateb i newidiadau mewn cynefinoedd o ganlyniad i weithgareddau pobl, megis trefoli.

Beth mae polisïau Putin yn ein dysgu am rym ôl-ffeministaidd

23 Mai 2018

Yn ysgrifennu yn 'The Conversation', mae'r Dr Sarah Riley o'r Adran Seicoleg yn trafod sut mae polisïau mewnol Rwsia yn helpu i esbonio pam mae menywod yn fodlon arddel delfrydau benywaidd newydd.

A yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi anghofio radicaliaeth cefn gwlad?

Yn ysgrifennu yn 'The Conversation', mae'r Dr Bryonny Goodwin-Hawkins, Ymchwilydd Cyswllt Ôl-ddoethurol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn gofyn: a yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi anghofio radicaliaeth cefn gwlad?

Cyn-fyfyrwraig Seicoleg yn ennill Ysgoloriaeth Gates Cambridge

08 Mai 2018

Mae cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, Melisa Basol, wedi ennill un o ysgoloriaethau Gates Cambridge.

Astudiaeth newydd yn dangos teneuo sylweddol i rewlif ym Mhatagonia

09 Mai 2018

Astudiaeth ryngwladol, sydd yn cynnwys rhewlifegwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn dangos bod Rhewlif Benito yng ngogledd Patagonia wedi teneuo 133 metr yn y 44 mlynedd diwethaf.

Dau fardd o Brifysgol Aberystwyth ar restr fer Llyfr y Flwyddyn

12 Mai 2018

Mae gwaith gan ddau ysgolhaig o Brifysgol Aberystwyth ymhlith naw cyfrol ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2018.

Pam fod hiliaeth yn erbyn y Cymry yn dal i fod yn hiliaeth

14 Mai 2018

Gan ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Catrin Fflur Huws, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth ac arbenigwr cydraddoldeb ieithyddol, yn dadlau'r achos dros amddiffyn y Cymry rhag rhagfarn.

Pam ein bod ni'n drilio i fewn i rewlifau ucha’r byd ar Everest gyda peiriant golchi ceir wedi’i addasu

14 Mai 2018

Mewn erthygl yng nghylchgrawn The Conversation, mae, Katie Miles a'r athro Bryn Hubbard o'r adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn esbonio sut maent yn ceisio deall cyfrinachau rhewlifoedd Mynydd Everest:

Urddo’r awdur Meic Stephens yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

16 Mai 2018

Mae’r awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens, wedi ei urddo’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Rhaglen Today BBC Radio 4 ar y campws

16 Mai 2018

Bydd prif raglen newyddion a materion cyfoes BBC Radio 4, Today yn darlledu'n fyw o Brifysgol Aberystwyth fore Iau 17 Mai 2018.

Prifysgol Aberystwyth yn noddi Maes B

21 Mai 2018

Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae Prifysgol Aberystwyth yn noddi Maes B, gŵyl gerddoriaeth Gymraeg pwysicaf Cymru sy’n cael ei chynnal eleni ym Mae Caerdydd o 8-11 Awst.

Cydnabod rhagoriaeth ymchwil rhewlifegydd o Aberystwyth

21 Mai 2018

Mae rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Michael Hambrey, wedi ei gydnabod am ragoriaeth ei ymchwil yn Antarctica a Chefnfor y De, a’i wasanaeth rhagorol i gymuned ryngwladol Antarctica.

Arfer y Swyddfa Gartref yw peidio â chredu pobl – hyd yn oed y rhai sy’n ceisio lloches rhag cael eu herlid

22 Mai 2018

Mewn erthygl yn ‘The Conversation’, mae Dr Gillian McFadyen o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod Windrush, yr amgylchedd gelyniaethus, a’r diwylliant o amau pobl, diwylliant sydd, yn ei thyb hi, yn rhemp yng nghyfundrefn lloches Prydain.

Efallai nad yw hiwmor mor dda â'ch iechyd wedi'r cyfan

22 Mai 2018

Yn ysgrifennu yn 'The Conversation', mae'r Darlithydd Seicoleg, Gil Greengross, yn trafod astudiaeth newydd sy'n canfod bod perfformwyr comedi yn dioddef mwy o broblemau iechyd.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gwobrwyo cyfraniad academydd o Brifysgol Aberystwyth

29 Mai 2018

Mae ymchwil ac ysgolheictod academydd of Brifysgol Aberystwyth ym maes cyfieithiadau llenyddol o ieithoedd Ewropeaidd i’r Gymraeg wedi ei gydnabod gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Prifysgol Aberystwyth yn parhau i ddringo’r tablau cynghrair

29 Mai 2018

Mae cynnydd Prifysgol Aberystwyth yn nhablau cynghrair y prifysgolion yn parhau yn sgil cyhoeddi canllaw prifysgolion 2019 The Guardian.

Wythnos Dechrau Busnes 2018

30 Mai 2018

Cynhelir Wythnos Dechrau Busnes flynyddol Prifysgol Aberystwyth o ddydd Llun 4 tan ddydd Gwener 8 Mehefin.

Myfyriwr ysgrifennu creadigol yn cipio gwobr New Welsh Review

30 Mai 2018

Casgliad o draethodau am golli clyw gan fyfyriwr ysgrifennu creadigol o Brifysgol Aberystwyth yw enillydd diweddaraf gwobr flynyddol y cylchgrawn llenyddol New Welsh Review.