Rhaglen Today BBC Radio 4 ar y campws

Bydd Today yn darlledu'n fyw o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Iau, 17 Mai.

Bydd Today yn darlledu'n fyw o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Iau, 17 Mai.

16 Mai 2018

Bydd prif raglen newyddion a materion cyfoes BBC Radio 4, Today yn darlledu'n fyw o Brifysgol Aberystwyth fore Iau 17 Mai 2018.

Bydd y cyflwynydd Justin Webb yn cyd-gyflwyno'r rhaglen o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar gampws Penglais a hynny o flaen cynulleidfa fyw o 150 o staff, myfyrwyr a phobl leol.

Mae mynediad am ddim a phob tocyn wedi mynd ond gellir clywed y rhaglen yn fyw ar BBC Radio Four rhwng 6yb a 9yb ddydd Iau 17 Mai neu'n hwyrach ar y BBC Radio Player y BBC.

Disgwylir i ystod o eitemau gyda chyfranwyr o blith staff a myfyrwyr y Brifysgol gael eu cynnwys yn y rhaglen, yn eu plith:

  • Bydd y Dr Gwion Evans o’r Adran Fathemateg yn cyflwyno’r pôs dyddiol tua 6.45yb.
  • Bydd y microbiolegydd y Dr Arwyn Edwards o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn dechrau cynnal prawf dilyniant DNA tua 6.50yb gan ddefnyddio samplau o bridd o ardd Justin Webb a’r Plas. Bydd Arwyn yn datgelu’r canlyniadau yn fyw ar y rhaglen ychydig cyn 9 y bore.
  • Mae disgwyl i’r Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure gael ei chyfweld rhwng 7yb-8yb.
  • Dr Fiona Corke o'r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion - Gallu Cenedlaethol a ariennir gan y BBSRC, wedi ei lleoli o fewn IBERS - yn trafod y gwaith a wneir yn y tŷ gwydr yng Ngogerddan, gan ganolbwyntio yn arbennig ar blanhigion sy’n gallu gwrthsefyll sychdwr a diffyg nodd.
  • Caiff yr Athro Richard Marggraf Turley o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ei holi tua 8:45yb pan fydd yn trafod drama ‘King Lear’ gan Shakespeare a phlanhigyn gwenwynig pabi’r gwenith (darnel), neu ‘Lolium temulentum L’ yn y Lladin. Mae’n debyg o ran golwg i wenith ond o gael ei bobi mewn torth, mae’n achosi i berson weld rhithiau.

Bydd Ysgrifennydd Addysg Cabinet Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams AC, yn Aberystwyth ar gyfer cyfweliad gyda Justin Webb.

Am ragor o wybodaeth am raglen Today, ewch i wefan BBC Radio 4: https://www.bbc.co.uk/programmes/b006qj9z.

 

AU17918