Prifysgol Aberystwyth yn parhau i ddringo’r tablau cynghrair

29 Mai 2018

Mae cynnydd Prifysgol Aberystwyth yn nhablau cynghrair y prifysgolion yn parhau yn sgil cyhoeddi canllaw prifysgolion 2019 The Guardian.

Prifysgol Aberystwyth welodd y cynnydd mwyaf yn y DU eleni, wrth iddi ddringo 36 safle i’r 50 uchaf, a’r ail safle yng Nghymru.

A hithau yn safle 45 o’r 121 o sefydliadau addysg uwch ar draws y DU, dyma berfformiad gorau Aberystwyth yn nhablau cynghrair The Guardian ers 2009.

Yn y tabl diweddaraf, mae Aberystwyth yn:

  • 2il yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr
  • 3ydd yn y DU am fodlonrwydd gydag adborth
  • 6ed yn y DU am fodlonrwydd gyda’r addysgu

Ar lefel pynciau unigol, mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth (9ed), Celf a Dylunio (6ed) ac Ieithoedd Modern (8ed) yn y deg uchaf yn y DU.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae canllaw prifysgolion The Guardian yn canolbwyntio ar y ffactorau sydd bwysicaf i fyfyrwyr o ran dewis y cwrs gorau iddyn nhw a ble i astudio.

"Mae’r ffaith bod Aberystwyth yn sgorio'n uchel yn y meysydd hyn yn adlewyrchiad o'r pwyslais a roddir yma ar ragoriaeth dysgu. Mae trylwyredd academaidd, adborth perthnasol ac amserol, addysgu sydd yn cael ei arwain gan ymchwil a darlithwyr sydd yn adnabod eu myfyrwyr yn nodweddiadol o’n cyrsiau gradd.  Cyfoethogir ein profiad myfyrwyr ymhellach gan ein lleoliad glan môr unigryw, clybiau a chymdeithasau undeb y myfyrwyr, a’n cymuned groesawgar a chefnogol.”

Mae’r canlyniadau diweddaraf yn adeiladu ar lwyddiant Aberystwyth mewn tablau cynghrair yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ym mis Medi 2017, enwyd Prifysgol Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu gan The Times and Sunday Times Good University 2018. Gwelwyd cynnydd pellach hefyd yn ei safle cyngrair, wrth iddi ddringo 9 safle i’r 50 uchaf o blith prifysgolion y DU.

Mewn sylw ar y pryd, dywedodd Alastair McCall, golygydd The Times and Sunday Times Good University Guide, bod Aberystwyth wedi “sicrhau rhai o’r canlyniadau mwyaf nodedig yn DU oddi wrth fyfyrwyr am ansawdd y dysgu mae’n ei gynnig”.

Mae tablau cynghrair The Guardian wedi eu seilio ar naw ffon fesur: Bodlonrwydd gyda’r cwrs, bodlonrwydd gyda’r addysgu, bodlonrwydd gyda’r adborth, cymhareb myfyrwyr/staff, gwariant y myfyriwr; cyfartaledd tariff mynediad, sgôr ychwanegu gwerth a gyrfa wedi chwe mis.

Yn ychwanegol, ac yn newydd ar gyfer eleni, mae’r ffon fesur parhad myfyrwyr, sef y ganran o fyfyrwyr sydd yn parhau o’r flwyddyn gyntaf i’r ail, ac sy’n arwydd o ba mor dda mae prifysgolion yn cefnogi eu myfyrwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am The Guardian University Guide 2018 ar gael arlein.