Yr Athro Ieuan Gwynedd Jones

Yr Athro Ieuan Gwynedd Jones (1920-2018). Cafodd ei urddo'n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2010.

Yr Athro Ieuan Gwynedd Jones (1920-2018). Cafodd ei urddo'n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2010.

09 Gorffennaf 2018

Bu fawr cyn-bennaeth Adran Hanes Cymru a Chymrawd Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Emeritws Ieuan Gwynedd Jones, yn 97 oed.

Yn frodor o’r Rhondda, cafodd yr Athro Jones ei benodi i Gadair Syr John Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1969. Yn ystod y cyfnod hwn fel pennaeth Adran Hanes Cymru y datblygodd ei waith ar Gymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daw ei brif astudiaethau at ei gilydd mewn tri llyfr: Explorations and Explanations (1981), Communities (1987) a Mid-Victorian Wales: the Observers and the Observed (1992), cyfrol a enillodd iddo radd D.Litt gan Brifysgol Cymru. Ymddeolodd yn 1984 a chafodd ei urddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2010.

Yma mae’r Athro Paul O’Leary, deiliad presenol Cadair Syr John Willimas yn Adran Hanes a Hanes Cymru, yn talu teyrnged i’r Athro Jones.

Yr Athro Ieuan Gwynedd Jones

Bu’r Athro Jones yn ddeiliad Cadair Hanes a Hanes Cymru Syr John Williams ac roedd yn Gymrawd o'r Brifysgol. Roedd yn hanesydd nodedig o Gymru oes Fictoria, yn ogystal â bod yn arbenigwr ar hanes seneddol yr ail ganrif ar bymtheg, ac mae ei waith pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn ymdrin ag hanes gwleidyddol a chymdeithasol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn draethodydd cyflawn a medrus, a dygir ei brif astudiaethau at ei gilydd mewn tri llyfr: Explorations and Explanations (1981), Communities (1987) a Mid-Victorian Wales: the Observers and the Observed (1992), cyfrol a enillodd iddo radd D.Litt gan Brifysgol Cymru.

Roedd ei lwybr at yrfa lwyddiannus yn academia yn anghonfensiynol. Yn fab i lowr a nyrs yng Nghymoedd y Rhondda, aeth i ysgol ramadeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar ôl gadael yr ysgol yn bedair ar ddeg ymunodd â'r llynges fasnachol, ond bu rhaid iddo adael oherwydd salwch. Yna, yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gweithio fel signalwr ar y rheilffyrdd.

Yn fuan ar ôl y rhyfel, aeth i brifysgol yn Abertawe, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Saenseg yn 1948. Roedd ei draethawd MA yn astudiaeth finiog o ysgrifennu hanes yn Lloegr yn ystod y cyfnod modern cynnar, ac enillodd hwn iddo gymrodoriaeth ymchwil yng Ngholeg Peterhouse, Caergrawnt. Erbyn 1954 roedd wedi dychwelyd i gymrodoriaeth yn Abertawe a newid cyfeiriad o hanes seneddol modern cynnar i hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hwn oedd y maes lle y gwnaeth ei gyfraniad mawr. Yn 1957 fe'i penodwyd i ddarlithyddiaeth. Ymunodd ag adran a oedd yn datblygu astudiaeth o hanes Cymru mewn ffyrdd newydd a chyffrous, ac roedd ei gydweithwyr yn cynnwys ei ffrind agos Syr Glanmor Williams a Kenneth O. Morgan ( yr Arglwydd Morgan, ac a ddaeth yn Brifathro yn Aberystwyth). Roedd yr Athro Jones yn aelod blaenllaw o grŵp o haneswyr yn y 1960au a ddechreuodd ysgrifennu hanes o safbwynt llawr gwlad, ac mae ei ddylanwad yn parhau ar hanes a gwleidyddiaeth yn y 21ain ganrif yng Nghymru a thu hwnt.

Ym 1969 fe'i penodwyd i Gadair Syr John Williams yn Aberystwyth a pharhaodd yn y swydd honno tan ei ymddeoliad ym 1984. Yma datblygodd ei waith ar Gymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fel pennaeth Adran Hanes Cymru. Yr oedd yn athro neilltuol a oedd yn ennyn diddordeb ei fyfyrwyr trwy'r angerdd a ddangosodd am ei bwnc a'i argyhoeddiad bod deall deinameg datblygiadau gwleidyddol a diwylliannol yng nghymdeithas oes Fictoria yn hanfodol er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o ddatblygiad y Gymru fodern.

Fel y goruchwylydd ôl-raddedig mwyaf dylanwadol ymchwil ar hanes Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif, datblygodd yr Athro Jones yrfaoedd cenedlaethau o ymchwilwyr, yn Abertawe ac yn Aberystwyth. Yma yn Aberystwyth bu'n allweddol wrth ennill cydnabyddiaeth gan y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth Gymdeithasol (wedi hynny yn ESRC) am ariannu ymchwil Meistr yn hanes cymdeithasol ac economaidd Cymru yn Adran Hanes Cymru. Dyrannwyd cwota o efrydiaethau PhD SSRC / ESRC i'r adran yn ystod ei amser hefyd. Caniataodd y ffynonellau cyllid hyn i’r adran ddatblygu diwylliant ymchwil ôl-radd cadarn. Cydweithiodd gydag ysgolheigion mewn adrannau eraill ac roedd yn gefnogwr cryf o waith rhyngddisgyblaethol y Ganolfan Uwchedfrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Fel dehonglwr 'hanes llawr gwlad', rhoddodd yr Athro Jones y bobl wrth wraidd ei ddarlun o gymdeithas Fictorianaidd. Roedd yn un o sylfaenwyr Llafur: Cymdeithas Astudio Hanes Llafur Cymru (yn ddiweddarach Cymdeithas Hanes Pobl Cymru) yn 1970 ac ef oedd llywydd y gymdeithas hyd at ei farwolaeth. Roedd hefyd yn gefnogwr brwd o gymdeithasau hanes sirol, a ystyriai fel sefydliadau pwysig ar gyfer ymgysylltu â’r chyhoedd yn ehangach wrth astudio hanes.

Pan ddyfarnwyd Cymrodoriaeth y Brifysgol iddo yn Aberystwyth yn 2010, yn fuan ar ôl ei ben-blwydd yn 90 oed, nodwyd yn y cyflwyniad fod ei arddull ysgrifennu yn 'ddysgedig a deifiol, tra ar yr un pryd yn gain, grymus â chyffyrddiad ysgafn iddo.’ Gwisgai ei ddysg helaeth a’i adnabyddiaeth eang o ddiwylliant yn ysgafn.

Yr Athro Paul O’Leary, Athro Syr John Williams, Adran Hanes a Hanes Cymru