Y bardd a dramodydd o Gymru, yr Athro Menna Elfyn, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

Chwith i’r Dde:  Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Professor Menna Elfyn, Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth; Miss Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

Chwith i’r Dde: Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Professor Menna Elfyn, Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth; Miss Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

17 Gorffennaf 2018

Mae'r bardd a dramodydd uchel ei bri, Menna Elfyn, wedi’i hurddo’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Yn un o’n llenorion pennaf, mae’r Athro Menna Elfyn yn ysgrifennu ag angerdd am y Gymraeg a hunaniaeth Gymreig.

Mae ei gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi dros bedair degawd, yn cynnwys pedair cyfrol ar ddeg o farddoniaeth, yn ogystal â llyfrau plant, blodeugerddi, dramâu llwyfan, addasiadau a sgriptiau teledu, dramâu radio, libreti a sawl rhaglen ddogfen i'r teledu.

Mae ei gwaith wedi'i gyfieithu'n fwy na'r un bardd Cymraeg modern arall, i fwy nag ugain iaith.

Hi oedd Bardd Plant Cymru yn 2002-03.

Yr Athro Menna Elfyn yw Cyfarwyddwraig Rhaglen Gradd Meistr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae’n Gymrawd Llenyddol ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd yr Athro Menna Elfyn ei chyflwyno gan Mr Eurig Salisbury, o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018.  Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyniad i’r Athro Menna Elfyn gan Mr Eurig Salisbury:

Ganghellor/Ddirprwy Ganghellor/Drysorydd, Is-Ganghellor, ddarpar-raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Menna Elfyn yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor/Pro Chancellor/Treasurer, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Menna Elfyn as a Fellow of Aberystwyth University.

Ers dros bedwar degawd, mae Menna Elfyn wedi bod yn un o feirdd amlycaf Cymru ac yn un o leisiau mwyaf blaenllaw’r genedl ar y llwyfan rhyngwladol. Mae’n llenor hynod doreithiog ac mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i dros ugain o ieithoedd.

Daeth ei phedwaredd cyfrol ar ddeg o farddoniaeth o’r wasg y llynedd, sef Bondo, casgliad o gerddi Cymraeg wedi eu gosod ochr yn ochr â chyfeithiadau gan rai o feirdd Saesneg gorau Cymru. Mae’r gyfrol honno a chyfrolau dwyieithog eraill, yn ogystal â chorff sylweddol o waith yn Gymraeg yn unig, yn dyst i’w dawn hynod gynhyrchiol ac i’w mentergarwch wrth feithrin cynulleidfaoedd hen a newydd.

Mae Menna’n wyneb ac yn llais cyfarwydd ar lwyfannau gwyliau llenyddol ar hyd a lled Cymru ac ar draws y byd, ac fe gydnabuwyd ei llwyddiant yn Sardinia yn 2009, pan dderbyniodd wobr ryngwladol am ei chyfraniad i farddoniaeth.

Hi oedd Bardd Plant Cymru 2002–3. Bu’n gyfarwyddwr cwrs am radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ers deunaw mlynedd, ac fe’i penodwyd yn Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol yn 2014.

Bu Menna’n golofnydd i bapur y Western Mail ers yn agos at bum mlynedd ar hugain. Mae hefyd yn ddramodydd ac yn gofiannydd. Cafodd ei chofiant i Eluned Phillips, Optimist Absoliwt, ei gynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2017, a bydd fersiwn Saesneg o’r gyfrol honno’n cael ei gyhoeddi eleni. Eisoes eleni, daeth o’r wasg ei llên-gofiant, sef Cennad.

O’r cychwyn cyntaf, mae Menna wedi rhoi lle canolog i’r difreintiedig ac i lais y ferch yn benodol yn ei gwaith fel bardd ac fel ymgyrchydd. Yng ngeiriau Ceridwen Lloyd Morgan:

‘Mae’n anodd meddwl am unrhyw fardd arall yn y Gymraeg sydd wedi gwneud cymaint â Menna Elfyn i gyfleu a dadansoddi profiadau a theimladau merched (a phobl o bob math) … yn ddigyfaddawd ac eto’n dyner.’

Menna Elfyn is a poet and playwright who writes with passion about the Welsh language and Welsh identity. She has published fourteen collections of poetry and her work has been translated into twenty languages.

As well as being one of Wales’s foremost poets for over four decades, Menna has routinely shared her work on the international stage, and was awarded an international prize in Sardinia in 2009 for her contribution to poetry.

She is the director of a Creative Writing Masters course at the University of Wales Trinity Saint David, and was appointed Professor of Poetry and Creative Writing in 2014. She was Bardd Plant Cymru (Welsh Children’s Laureate) 2002–3, and has been a columnist for the Western Mail since 1994.

Language, feminism, and giving a voice to the oppressed have always been at the heart of Menna Elfyn’s work as a poet and activist. In the words of Carla Manfredino:

‘If there is a poet addressing important issues about language today, it’s Menna Elfyn … [her] poems are a quiet call for the reconciliation of diversity, a reminder that cultural nuances are what make life meaningful.’

Ganghellor/Ddirprwy Ganghellor/Drysorydd, mae’n bleser gen i gyflwyno Menna Elfyn i chi yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor/Pro Chancellor/Treasurer, it is my absolute pleasure to present Menna Elfyn to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2018

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu naw o bobl yn ystod seremonïau graddio 2018, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 17 Gorffennaf a dydd Gwener 20 Gorffennaf.

Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Cyflwynir un radd Doethuriaeth Er Anrhydedd hefyd; mae’r rhain yn cydnabod unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i:

  • Yr Athro Ann Sumner – hanesydd celf, curadur arddangosfeydd, a chyfarwyddwraig amgueddfa
  • Bonamy Grimes MBE – gwe-entrepreneur a chyd-sylfaenydd y wefan cymharu prisiau teithiau awyren, Skyscanner
  • Euryn Ogwen Williams – darlledydd profiadol a ffigwr arloesol yn y cyfryngau yng Nghymru
  • John Dawes OBE – cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi rhyngwladol
  • Yr Athro Menna Elfyn – bardd a dramodydd arobryn
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC – barnwr blaenllaw.

Urddwyd yr awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau 3 Mai 2018. Bu farw yr Athro Stephens ar ddydd Iau 3 Gorffennaf.

Gradd Doethur er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Doethur er Anrhydedd i’r entrepreneur technoleg a dylunydd meddalwedd, John Thompson.

Graddau Baglor er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Baglor yn y Gwyddorau er Anrhydedd i gyn Reolwr Gorsaf Dân Aberystwyth, Eric Harries, a drefnodd ac arwain 50 o deithiau dyngarol i Ddwyrain Ewrop i gynorthwyo rhai diniwed a ddioddefai oherwydd rhyfel.

Cyflwynir Gradd Baglor yn y Celfyddydau er Anrhydedd i Sue Jones-Davies, actores a chantores, cynghorydd tref, a chyn Faer Aberystwyth.

 

AU31218