Yr actor a’r gantores, Sue Jones-Davies, yn cael ei hanrhydeddu â Gradd Baglor yn y Celfyddydau

Sue Jones-Davies

Sue Jones-Davies

18 Gorffennaf 2018

Cyflwynwyd Gradd Baglor yn y Celfyddydau er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth i’r actores, cantores a chyn faer Aberystwyth, Sue Jones-Davies.

Graddiodd Sue Jones-Davies o Brifysgol Bryste yn 1971, a daeth yn actores a chantores.  Mae wedi gweithio ym meysydd y teledu, ffilm, radio a'r theatr, yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ar y llwyfan bu'n rhan o gynhyrchiad gwreiddiol Jesus Christ Superstar yn Llundain. Ar y teledu mae hi wedi actio yn How Green was My Valley, y gyfres ITV Rock Follies, a chwaraeodd ran Megan Lloyd George yng nghyfres y BBC The Life and Times of David Lloyd George

Ei hymddangosiadau ffilm mwyaf nodedig oedd fel cariad y meseia, Judith Iscariot, yn y ffilm Monty Python Life of Brian (1979) a Solomon a Gaenor (1999) a gafodd enwebiad am Oscar am y Ffilm Orau mewn Iaith Dramor. 

Yn y 1970au canai gyda The Bowles Brothers Band, ac erbyn hyn mae'n canu yn y band acwstig Cusan Tân. 

Mae'n dysgu ioga ym mro Aberystwyth, lle y mae'n rhan o'r grŵp Yoga i Bawb, sy'n ymdrechu i ddod ag ioga i bob rhan o'r gymuned.

Mae Sue hefyd wedi bod yn aelod allweddol o dîm blaen tŷ Canolfan y Celfyddydau ar gampws Penglais am nifer o flynyddoedd.

Mae'n gynghorydd dref i Blaid Cymru a bu'n Faer Aberystwyth yn 2008-2009. 

Cyflwynir Gradd er Anrhydedd yn y Celfyddydau i Sue Jones-Davies yn fore Mercher 18 Gorffennaf gan Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.  Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyniad i Sue Jones-Davies gan Dr Anwen Jones:

Pro Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Sue Jones-Davies for an Honorary Bachelor of Arts Degree of Aberystwyth University.

It is indeed a particular pleasure for me as Head of the Department of Theatre, Film and Television Studies to present a candidate who clearly embodies the artistic vitality and the creative verve of the discipline to which she has dedicated an impressive professional life. In physical stature, Sue is, like myself, compact, but her persona and charisma as a performer, whether singing or acting, has depth, breadth and magnitude.

Since graduation from Bristol University in 1971, Sue has worked extensively across a wide variety of creative media, including television, radio and theatre both in English and Welsh with equal flair and impact. Mae meistrolaeth Sue ar feysydd amrywiol theatr, ffilm a theledu yn dystiolaeth o’i hyblygrwydd fel perfformwraig o’r radd flaenaf a hynny mor rhygl yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.

Cychwynodd ei gyrfa llwyfan yn Theatr y Palas, Llundain ac wedyn ar lwyfannau Chichester. Her first stage role was in Jesus Christ Superstar and her first theatre roles were Petra in Ibsen’s The Enemy of the People and Bianca in Othello. Clearly, Sue could handle the challenge of strong female roles but she could also respond with flexibility to the varied demands of differing art forms such as the musical, on the one hand, and the Shakespearean canon on the other; strength and flexibility then, cryfder a hyblygrwydd, emerge as some of Sue’s key attributes.

Sue always occupied a challenging and tantalisingly provocative artistic space; she was, and is, exciting in artistic terms. The company she has kept such as that of Sian Phillips and Stanley Baker in the series, How Green was my Valley and the lives she has presented such as that of Megan Lloyd George in the BBC series on the life of Lloyd George reveal the way she was robustly embedded in Welsh cultural and performative life and yet so clearly on her own artistic terms. Efallai nad yw’n syndod i’w rôl mwyf adnabyddus ddod yn ei chyfraniad i’r ffilm dadleuol, The Life of Brian.I am sure that the Aberystwyth Arts Centre, where we celebrate all of today’s achievements, is proud to have screened The Life of Brian in 2009.

Sue has lived her professional life intensely, with integrity and in the light of her own principles and it is no surprise that she has made significant contributions to the political life of Aberystwyth and beyond in her role as town mayor, and Plaid Cymru counsellor and in her dedication to ecological, human rights and feminist causes. Ar droad y mileniwm, ail hyfforddodd Sue fel athrawes yoga a bellach fe nodweddir ei gyrfa gan yr un egwyddorion ag erioed; hyblygrwydd a chryfder. At the turn of the millennium, Sue re-trained as a yogainstructor so her career and contribution to the arts continues to be characterised by those enduring and admirable characteristics; flexibility and strength.

Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Sue Jones-Davies am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2018

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu naw o bobl yn ystod seremonïau graddio 2018, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 17 Gorffennaf a dydd Gwener 20 Gorffennaf.

Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Cyflwynir un radd Doethuriaeth Er Anrhydedd hefyd; mae’r rhain yn cydnabod unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i:

  • Yr Athro Ann Sumner – hanesydd celf, curadur arddangosfeydd, a chyfarwyddwraig amgueddfa
  • Bonamy Grimes MBE – gwe-entrepreneur a chyd-sylfaenydd y wefan cymharu prisiau teithiau awyren, Skyscanner
  • Euryn Ogwen Williams – darlledydd profiadol a ffigwr arloesol yn y cyfryngau yng Nghymru
  • John Dawes OBE – cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi rhyngwladol
  • Yr Athro Menna Elfyn – bardd a dramodydd arobryn
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC – barnwr blaenllaw.

Urddwyd yr awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau 3 Mai 2018. Bu farw yr Athro Stephens ar ddydd Iau 3 Gorffennaf.

Gradd Doethur er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Doethur er Anrhydedd i’r entrepreneur technoleg a dylunydd meddalwedd, John Thompson.

Graddau Baglor er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Baglor yn y Gwyddorau er Anrhydedd i gyn Reolwr Gorsaf Dân Aberystwyth, Eric Harries, a drefnodd ac arwain 50 o deithiau dyngarol i Ddwyrain Ewrop i gynorthwyo rhai diniwed a ddioddefai oherwydd rhyfel.

Cyflwynir Gradd Baglor yn y Celfyddydau er Anrhydedd i Sue Jones-Davies, actor a chantores, cynghorydd tref, a chyn Faer Aberystwyth.

 

AU31418