Datganiad Neuadd Pantycelyn

Neuadd Pantycelyn

Neuadd Pantycelyn

13 Medi 2018

Mae'r gwaith uchelgeisiol o adnewyddu neuadd breswyl Pantycelyn yn un o brif brosiectau cyfalaf y Brifysgol ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed i'w gyflawni o fewn yr amserlen a fwriadwyd. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg yn ystod trafodaethau manwl gyda phenseiri a chontractwyr bod yr heriau o ailddatblygu'r adeilad rhestredig Gradd 2 hwn yn golygu na fydd modd cyflawni’r nod gwreiddiol o ailagor yr adeilad ym mis Medi 2019. Er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud gyda gofal, i safon uchel ac o fewn y gyllideb, bydd y myfyrwyr cyntaf bellach yn symud i'w hystafelloedd ym mis Medi 2020.

Mae’r Brifysgol yn sylweddoli y bydd y newyddion hwn yn siom i'r sawl sydd am brofi bywyd ym Mhantycelyn mor fuan â phosib ac rydym yn ymddiheuro am yr oedi. Bu pwysau annisgwyl ar yr amserlen, gan gynnwys yr angen i gynnwys system chwistrellu yn y cynlluniau.

Pan fydd yn ailagor yn 2020, bydd yr adeilad eiconig hwn ar ei newydd wedd yn cynnig ystafelloedd en-suite, cyfoes o’r radd flaenaf ar gyfer 200 o fyfyrwyr mewn amgylchedd cyfrwng Cymraeg, ynghyd â swyddfeydd ar gyfer Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), ffreutur a mannau cymdeithasol deniadol i'w defnyddio gan fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol.

Mae’r Brifysgol yn falch o adrodd bod y prosiect eisoes wedi cyrraedd cyfres o gerrig milltir arwyddocaol. Mae caniatâd cynllunio mewnol ac allanol wedi eu cymeradwyo, ac mae cydlynu cyson gyda CADW a swyddogion cynllunio Cyngor Sir Ceredigion. Mae pecyn cyllido gwerth £12m yn ei le, yn cynnwys grant hael o £5m gan Lywodraeth Cymru. Mae proses gaffael lawn a thrylwyr wedi cael ei chynnal er mwyn gallu penodi contractwyr allanol, ac mae rheolwr prosiect o’r Brifysgol wedi’i benodi sydd ag arbenigedd mewn rheoli llety myfyrwyr o safon. Mae gwaith galluogi eisoes yn digwydd yn yr adeilad.

Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-2020, gall myfyrwyr ddewis ymuno â'n cymuned fywiog o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg mewn llety dynodedig ym Mhantycelyn-Penbryn neu Fferm Penglais, gyda chyfle i symud i Bantycelyn ym mis Medi 2020.

Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn y gwaith o drawsnewid Pantycelyn yn cael gwybod am ddatblygiad y prosiect. Edrychwn ymlaen at weld y prosiect cyffrous hwn yn datblygu'n llawn ac i Bantycelyn ddod yn ganolbwynt unwaith yn rhagor i fywyd Cymraeg Aberystwyth a thu hwnt. 

Bwrdd Prosiect Pantycelyn

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn, sydd â gorolwg strategol dros y cynllun: “Roedd y newyddion am yr oedi yn siom wirioneddol i Fwrdd Prosiect Pantycelyn. Serch hynny, mae’r Bwrdd yn derbyn bod y Brifysgol yn gwbl ymrwymedig i ailagor Pantycelyn ac mae’r cyllid angenrheidiol yn ei le. Mae’r Bwrdd hefyd wedi cael addewid personol gan yr Is-Ganghellor y bydd Pantycelyn ar ei newydd wedd yn barod erbyn Medi 2020, ac y bydd y gwaith adnewyddu o’r safon orau”.

UMCA

Dywedodd Anna Wyn Jones, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth: “Mae’r newyddion yn siom enfawr i UMCA gan fod pawb wedi disgwyl dychwelyd i’r neuadd ym mis Medi 2019. Ond rydym am bwysleisio bod y neuadd yn mynd i ail agor ar ei newydd wedd ac yn y cyfamser, mae bwrlwm bywyd Cymraeg Aber yn parhau. Mae’n hanfodol nawr bod myfyrwyr yn cael symud i mewn ym mis Medi 2020 ac fe fyddwn ni fel undeb yn gweithio i’r eithaf gyda’r Bwrdd Prosiect a’r Brifysgol i sicrhau fod hyn yn digwydd.”