Trosolwg

Pantycelyn, neuadd breswyl enwocaf Cymru, yn cynnig llety en-suite ar gyfer hyd at 200 o fyfyrwyr, sy’n dymuno byw trwy gyfrwng y Gymraeg, gofod cymdeithasol cyffrous, cyfleusterau gemau ac ystafelloedd astudio gyda’r offer diweddaraf.

Bum munud ar droed o gampws Penglais ac o’r dref, Pantycelyn yw calon cymuned fywiog myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.

Yn unol â thraddodiad Pantycelyn, bydd y breswylfa yn neuadd agored ac ar gael i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ac unrhyw fyfyrwyr sy'n edrych i ddysgu'r Gymraeg.

Neuadd Pantycelyn yw calon bywyd Cymraeg Prifysgol Aberystwyth a neuadd breswyl enwocaf Cymru. Mae Pantycelyn hefyd yn gartref i UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth). Mae UMCA yn cefnogi nifer o gymdeithasau Cymraeg poblogaidd megis Y Geltaidd, Plaid Cymru Ifanc, ac Aelwyd Pantycelyn i’r rheiny ohonoch sy’n mwynhau perfformio. Mae gweithgareddau’r Undeb yn amrywio o drefnu adloniant a digwyddiadau i ymgyrchu dros faterion addysgiadol, cymdeithasol ac ieithyddol yn y Brifysgol a’r tu hwnt. Yn bwysicaf oll mae UMCA yn awyddus i sicrhau eich bod chi’n gwneud yn fawr o’ch amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn academaidd, yn gymdeithasol ac ym mhob ffordd, ac os fydd unrhyw beth yn eich poeni chi, bydd dim rhaid ichi fynd yn bell i ofyn am gyngor.

Mae Pantycelyn yn unigryw gan ei bod neuadd arlwyo rhannol sy’n cynnig cyfle i breswylwyr gyd-fwyta a chymdeithasu amser bwyd yn y ffreutur ar y llawr gwaelod.

Hefyd ar y llawr gwaelod fe welwch nifer o ystafelloedd cymunedol amlbwrpas, sy'n cynnig ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau.

Pantycelyn, dy gartref oddi cartre, a llawer mwy.

Profiadau cyn-fyfyrwyr ym Mhantycelyn

Cyfleusterau a Gwasanaethau

Dyma rai o’r brif gyfleusterau Pantycelyn:

  • Llety arlwyo rhannol gyda bwyty annatod ar y llawr gwaelod, ar gael dydd Llun - dydd Gwener ar gyfer:
    • brecwast 8.00yb - 10.15yb
    • swper 5.00yp - 6.30yp
  • Yn ystod amseroedd eraill, gan gynnwys y penwythnosau, mae yna ystod eang o fwyd poeth ar gael yn Undeb y Myfyrwyr, Canolfan y Celfyddydau a Tamed Da. Ceir rhagor o fanylion ar dudalennau’r Gwasanaethau Croeso.
  • Wi-Fi a chysylltiad gwifrau
  • Ystafelloedd astudio tawel gyda chyfleusterau cyfrifiadurol
  • Dwy ystafell gyfarfod fach
  • Pedair ystafell gyffredin ar y llawr gwaelod:
    Boed hynny ar gyfer gwaith grŵp, fel gofod perfformio, ymarferion cerdd, ar gyfer cyfarfodydd cymdeithas neu ddim ond lle arall i eistedd, astudio ac ymlacio - mae gennym ystafelloedd gyda cyfleusterau amlgyfrwng, piano, seddi meddal, byrddau, desg a chyfleusterau gemau - popeth y gallwch chi ei angen o dan yr un to!
    • Lolfa Fach
    • Lolfa Fawr
    • Ystafell Gyffredin Hŷn
    • Ystafell Gyffredin Iau
  • Mae rhai o‘r ystafelloedd uchod ar gael i’w harchebu gan fyfyrwyr a staff y Brifysgol nad ydynt yn breswylwyr ym Mhantycelyn. (Gweler Pantycelyn - Archebu Ystafell Gymunedol am fanylion)
  • Swyddfa UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymreig Aberystwyth
  • Ystafell post gyda blychau post diogel
  • Cyfleusterau golchi dillad
  • Gwasanaeth glanhau a ddarperir ym mhob man cymunedol y tu allan i'ch ystafelloedd (ardal), gan gynnwys mynedfeydd, glaniadau, grisiau a choridorau a lleoedd cymdeithasol ar y llawr gwaelod.
  • Cyfleusterau gwerthu
  • Storfa ddiogel i gadw beiciau.
  • Pwyntiau casglu Sbwriel ac Ailgylchu
  • Parcio (cyfyngedig, angen trwydded)
  • Cynorthwywyr Preswyl sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad i chi.

Beth sydd yn eich Ystafell?

  • Gwely a matres
  • Cabinet(au) storio
  • Cwpwrdd dillad
  • Desg a chadair cyfrifiadur
  • Lamp desg
  • Silffoedd llyfrau
  • Hysbysfwrdd
  • Bin gwastraff

Ystafell ymolchi en-suite

  • Cawod
  • Toiled
  • Basn golchi gyda drych
  • Bin
  • Brwsh toiled

 

Beth sydd yn eich cegin?

Er bod Pantycelyn yn breswylfa arlwyo, mae nifer o geginau yn y neuadd - sy'n darparu 1 cegin ar gyfartaledd i bob 8 myfyriwr.

Cegin

  • Oergell
  • Popty ping
  • Boeler dŵr poeth wedi'i osod ar wal
  • Tostiwr
  • Hwfer
  • Haearn
  • Bwrdd smwddio
  • Bwced a mop
  • Padell lwch a brwsh
  • Brwsh llawr
  • Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol

* Sylwch fod rhewgelloedd at ddefnydd myfyrwyr ar gael ar y Llawr Gwaelod, yn y storfa wrth ymyl Lolfa Fawr.

Lleoliad

Map showing location of PantycelynCliciwch ar y map i weld lleoliad Pantycelyn.

Mae Pantycelyn o fewn taith gerdded dwy funud i:

Galeri

Lluniau artistiaid o ystafell wely nodweddiadol ym Mhantycelyn. (cliciwch ar y delweddau i weld fersiwn fwy)

Mynedfa
Ystafell Wely
Ystafell Wely
Ystafell Wely
Ystafell Wely
Cegin
Ystafell Gyfrifiadur
Lolfa
Lolfa
Ffreutur
Lolfa
Lolfa
Lolfa

Ffioedd

Math o Ystafell

Cost Wythnosol 2023/2024

Hyd y Contract 2023/2024

Cost Wythnosol 2024/2025

Hyd y Contract 2024/2025
Sengl £197.41 (yn cynnwys lwfans bwyd o £57.75 yr wythnos) 33 wythnos* £205.31 (yn cynnwys Iwfans bwyd o £60.06 yr wythnos) 33 wythnos**

* 33 wythnos =

22/09/2023 – 16/12/2023 (12 wythnos)

06/01/2024 – 23/03/2024  (11 wythnos)

13/04/2024 – 21/06/2024 (10 wythnos)

** 33 wythnos =

20/09/2024 – 14/12/2024 (12 wythnos)

04/01/2025 – 05/04/2025  (13 wythnos)

26/04/2025 – 20/06/2025 (8 wythnos)

Mae'r lwfans bwyd yn hyblyg - os na ddefnyddiwch y lwfans dyddiol / wythnosol, bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo a gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd eich Trwydded.

Gellir gadael yr holl eiddo nawr yn eich llety ym Mhantycelyn trwy gydol y Nadolig a'r Pasg!

 Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety