Theatr y Werin yn cael ei hailagor gan yr Arglwydd Elis-Thomas yn dilyn buddsoddiad sylweddol

(chwith i'r dde): Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth; Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru; Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Louise Amery, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

(chwith i'r dde): Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth; Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru; Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Louise Amery, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

26 Tachwedd 2018

Mae un o theatrau mwyaf blaenllaw Cymru, Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, wedi’i hailagor yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol.  

Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ar Ddydd Iau 22 Tachwedd 2018, ailagorwyd y theatr yn swyddogol gan yr Arglwydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru.

I nodi’r achlysur, bu’r Arglwydd Elis-Thomas hefyd yn dadorchuddio englyn gan y bardd a Phennaeth Gweithredol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol, Eurig Salisbury, a gomisiynwyd yn arbennig.

Caeodd drysau Theatr y Werin dros dro ar 3 Ebrill 2018 ar gyfer y prosiect sy’n werth £750,000. Cafodd y theatr ei hatgyweiriad trydanol cynhwysfawr cyntaf ers iddi agor ym 1972. 

Gyda chefnogaeth ariannol Prifysgol Aberystwyth, buddsoddwyd mewn systemau ac offer trydanol newydd yn ogystal â seddi a charpedi newydd yn yr awditoriwm sy’n cynwys 300 o seddi.

Ailagorwyd drysau’r theatr ym mis Hydref 2018 ac mae eisoes wedi cyflwyno rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn cynnwys perfformiadau gan Theatr Genedlaethol Cymru, Geraint Jarman, Theatr Na N’og, Meic Stevens, Theatr Bara Caws, Imitating the Dog a rhagor. 

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: “’Rydym wrth ein bodd bod Theatr y Werin yn weithredol unwaith eto, ac ‘rydym wedi cael ymateb positif iawn oddi wrth ein cynulleidfaoedd ac oddi wrth y cwmnïau theatr sy’n perfformio ar y llwyfan yma.  Mae ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i fuddsoddi yng Nghanolfan y Celfyddydau yn sicrhau dyfodol y theatr am yr ugain mlynedd nesaf ac yn ein galluogi i barhau i raglennu’r gwaith gorau oll yng Nghymru ac yn rhyngwladol yma yn Aberystwyth.”

Aethpwyd â’r Arglwydd Elis-Thomas ar daith o gwmpas Canolfan y Celfyddydau cyn yr agoriad ac ymunwyd ag ef gan Is-Ganghellor y Brifysgol yr Athro Elizabeth Treasure a Chadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George.  Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Fel Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru a chyn ddarlithydd drama rhan- amser yn y Brifysgol hon, mae’n bleser mawr gennyf ailagor Theatr y Werin ar ei ffurf wych ddiweddaraf.  Mae drama ar holl blatfformau’r cyfryngau yn allweddol i ansawdd bywyd a diwylliant gymaint o bobl, ond ‘does dim byd fel cyffro perfformiadau byw mewn theatr leol.”

Mae’r awdur arobryn Eurig Salisbury yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol ac enillodd ei nofel, Cai, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2016. Mae ei Englyn yn ystyried sut mae pawb yn cael eu croesawu yn Theatr y Werin, yn llythrennol ‘theatr y bobl’:

Theatr y Werin

Trefnwyd, gosodwyd y sin ‒ a heno,

Pa un a wyt frenin

Ai o doriad y werin,

Sudda i gôl ein seddi gwin!

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure:  “O ddramâu sy'n procio’r meddwl i’r pantomeim, cerddoriaeth a dawns, mae Theatr y Werin wedi bod yn ffynhonnell flaenllaw sy’n ysbrydoli ac yn diddanu yng Nghanolbarth Cymru ers bron i ddeugain mlynedd. Mae ein buddsoddiad diweddar yn seilwaith y theatr yn dangos ymrwymiad parhaus y Brifysgol i lwyddiant Canolfan y Celfyddydau, sy'n chwarae rhan mor bwysig ym mywyd diwylliannol ein tref, ein rhanbarth a'n gwlad."

Gwnaethpwyd y gwaith adnewyddu’n bosibl yn sgil cefnogaeth y Brifysgol, dim yn unig yn ariannol ond hefyd trwy gefnogaeth ac arbenigedd yr Adran Ystadau a reolodd y prosiect.  Y prif gontractwyr oedd Fagan Electricals, a bu Tîm Technegol y Ganolfan ei hun hefyd yn gweithio ar y prosiect gydol yr amser er mwyn sicrhau y byddai’r theatr yn barod i ailagor mewn da bryd.

Cynhelir llawer mwy o berfformiadau yn y theatr yn ystod y misoedd nesaf gan gynnwys y cwmni dawns blaenllaw Aakash Odedra, y ffefryn teuluol ‘The Tiger Who Came to Tea’, Ballet Cymru, a chynhyrchiad Nadolig y Ganolfan ‘The Railway Children’. 

Am fanylion llawn ynglyn â pherfformiadau a digwyddiadau ymwelwch â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth arlein.