Gallai technoleg y gofod fod o fudd i gwmnioedd canolbarth Cymru yn ôl ffisegydd o Aberystwyth

Yr Athro Andrew Evans, Pennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yr Athro Andrew Evans, Pennaeth yr Adran Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

04 Ionawr 2019

Mae’r cyhoeddiad o £3.7m o gyllid yr UE gan Mark Drakeford o Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018 i greu rhwydwaith ymchwil o'r radd flaenaf i helpu diwydiannau i fanteisio ar dechnoleg flaengar, wedi ei groesawu gan wyddonydd o Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r Athro Andrew Evans, Pennaeth Adran Ffiseg yn Aberystwyth, yn awdurdod ar led-ddargludyddion and yn ddiweddar cyhoeddodd ymchwil ar graffîn - haenen sengl o atomau carbon ac un o’r deunyddiau cryfaf a brofwyd erioed.

Yn ôl yr Athro Evans, gallai cwmnioedd yng nghanolbarth Cymru elwa o dechnolegau a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer astudio’r gofod yn sgil sefydlu’r Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg newydd gwerth £5.8m.

Dywedodd yr Athro Evans: “Mae Cymru yn cael ei chydnabod ar draws y Byd am ei harbenigedd mewn ffotoneg ac opteg – technoleg sydd i’w gweld ym mhob man, o synhwyryddion parcio mewn ceir i laser sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llawdriniaethau meddygol a chelloedd ar gyfer dal ynni’r haul.”

“Mae traddodiad hir ym Mhrifysgol Aberystwyth o waith ymchwil arloesol ar wydr, lled-ddargludyddion, haenau tenau, deunyddiau tryloyw a chelloedd solar, ac ar ddatblygu offer ar gyfer ymchwil y gofod, gan gynnwys teithiau i’r planedau Mawrth, Mercher a Gwener, yn ogystal â’r Lleuad a’r Haul.

“Gallai’r wybodaeth a’r arbenigedd am sut i adeiladu’r camerau a’r synwyryddion gorau, pa gydrannau i’w defnyddio a sut mae sicrhau eu bod yn gweithio mewn amgylcheddau eithafol megis y gofod gael eu defnyddio er budd diwydiant wrth iddynt ddatblygu technolegau newydd ar gyfer y sector fasnachol.”

Bydd prosiect y Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg yn dod ag arbenigedd o bob cwr o Gymru ynghyd ac yn sefydlu prosiectau ymchwil cydweithredol i annog diwydiannau i fanteisio ar dechnoleg ffotoneg yn y defnydd o laseri, synwyryddion a ffeibrau optig.

Dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr, bydd y prosiect tair blynedd yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â phrifysgolion Aberystwyth, De Cymru a Bangor, gan weithio gyda chwmnïau ar draws y Gorllewin a'r Gogledd ac yng Nghymoedd y De mewn meysydd fel gweithgynhyrchu, gofal iechyd, telathrebu, ynni ac amaethyddiaeth.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid ar y pryd: “Mae'n hanfodol i ddiwydiannau Cymru gael mynediad at yr wybodaeth a'r arbenigedd sydd ar gael yn ein prifysgolion gwych er mwyn sbarduno arloesedd a sicrhau lle i Gymru ar lwyfan y byd.

“Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos pwysigrwydd sicrhau cyllid cyfatebol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi swyddi a thwf yng Nghymru ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.”

Dywedodd Caroline Gray, cyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Rydyn ni'n falch iawn o gael y cyllid hwn ac o gael arwain y prosiect gyda'n partneriaid a sectorau eraill yn y Gorllewin a'r Cymoedd.

“Bydd y ganolfan yn dwyn ynghyd bob maes o arbenigedd academaidd ar draws technoleg ffotoneg, gan helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o brosesau a chynnyrch i hybu twf busnesau ac effeithlonrwydd ar gyfer economi Cymru a chenedlaethau'r dyfodol.”

Ffotoneg yw'r wyddor o ddefnyddio golau i gynhyrchu ynni, canfod neu drosglwyddo gwybodaeth a ffurfiau eraill o ynni pelydrol lle mae'r uned gwantwm yw'r ffoton.