Gŵyl Yrfaoedd Dewiswch Eich Dyfodol ym Mhrifysgol Aberystwyth

(chwith i'r dde): Dona Evans, Rheolwr Tîm Gyrfaoedd Cymru Gwasanaethau pobl ifanc Ceredigion; Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth a Andrew Wonklyn, Rheolwr Tîm Rhanddeiliaid Gyrfaoedd Cymru.

(chwith i'r dde): Dona Evans, Rheolwr Tîm Gyrfaoedd Cymru Gwasanaethau pobl ifanc Ceredigion; Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth a Andrew Wonklyn, Rheolwr Tîm Rhanddeiliaid Gyrfaoedd Cymru.

19 Chwefror 2019

Croesawodd Prifysgol Aberystwyth ddisgyblion o bob ysgol uwchradd yng Ngheredigion ddydd Mawrth 19 Chwefror, i ddigwyddiad gyrfaoedd a sgiliau rhyngweithiol.

Trefnwyd Gŵyl Yrfaoedd Dewiswch eich Dyfodol gan Gyrfa Cymru ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

A hithau bellach yn ei thrydedd flwyddyn, diben yr ŵyl yw cynyddu a gwella ymwybyddiaeth y disgyblion o’r cyfleoedd gwahanol a’r llwybrau gyrfaol galwedigaethol sydd ar gael iddynt.

Daeth dros 1,000 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ledled Ceredigion i’r digwyddiad, a chawsant wybodaeth am gyfleoedd addysgol, gwirfoddoli, prentisiaethau a chyflogaeth gan dros gant o arddangoswyr.

Cafodd y disgyblion gyfle hefyd i wrando ar gyflwyniadau gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, Coleg Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth am yrfaoedd a dewis y cyrsiau iawn, a chael cyngor arbenigol gan Ymgynghorydd o Gyrfa Cymru. Roedd yna hefyd weithdai rhyngweithiol a sesiynau ‘Rhoi Cynnig Arni’.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr) ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r Brifysgol yn cyflwyno amrywiaeth eang o fentrau estyn allan mewn ysgolion a cholegau, yn lleol a thrwy’r DU, i helpu disgyblion i wneud penderfyniadau deallus am eu dyfodol, ac i helpu i godi eu dyheadau wrth ystyried eu dewisiadau.

“Rydym yn falch iawn o weithio ar y cyd â Gyrfa Cymru i gynnal Gŵyl Yrfaoedd Dewiswch eich Dyfodol am y drydedd flwyddyn yn olynol.”

Dywedodd Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru: “Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol bwysig i helpu pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb am eu dyfodol a darganfod mwy am y cam cyntaf i fyd gwaith.

“Roedd hi’n galonogol gweld cymaint o brif gyflogwyr Cymru a chynrychiolaeth eang o blith busnesau a diwydiant lleol, pawb yn ymroddedig i ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yng Ngorllewin Cymru.”