Hwyluswyr, cymhellwyr a mentoriaid yn dathlu llwyddiant ar ôl cwblhau eu modiwlau ôl-radd

Cyflwyno tystysgrifau modiwlau Hwyluso ar gyfer Arweinyddiaeth Sefydliadol a Chymell a Mentora ar gyfer Arweinwyr sydd wedi eu cynllunio ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Menter a Busnes.

Cyflwyno tystysgrifau modiwlau Hwyluso ar gyfer Arweinyddiaeth Sefydliadol a Chymell a Mentora ar gyfer Arweinwyr sydd wedi eu cynllunio ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Menter a Busnes.

05 Ebrill 2019

Cafodd hanner cant o weithwyr proffesiynol sydd wedi cwblhau’r modiwlau Hwyluso ar gyfer Arweinyddiaeth Sefydliadol a Chymell a Mentora ar gyfer Arweinwyr yn llwyddiannus eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddoe, dydd Iau 5ed Ebrill.

Mae'r modiwlau ôl-radd, achrededig ar lefel 7 ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau neu sy'n dymuno cynorthwyo eraill i ddatblygu eu busnesau ac wedi eu cynllunio ar y cyd â Menter a Busnes, prif gwmni datblygu economaidd annibynnol Cymru, sydd â swyddfeydd ym Mangor, Meifod, Llanelwy, Aberystwyth a Chaerdydd.

Meddai Dr Wyn Morris, darlithydd yn Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gweithio gyda Menter a Busnes i ddarparu cefnogaeth twf busnes. Mae’r cydweithio rhwng Ysgol Fusnes Aberystwyth a Menter a Busnes bellach yn ei phedwaredd flwyddyn ac wedi arwain at fanteision uniongyrchol i'r economi leol trwy gynyddu ein gallu i gefnogi mentrau ac unigolion i ddatblygu eu sgiliau a'u potensial arweinyddiaeth. ”

Ychwanegodd Wyn Owen, arweinydd y modiwl: “Rydym wedi sefydlu perthynas dda gyda Phrifysgol Aberystwyth sy'n caniatáu i ni ddatblygu cyrsiau sy'n pontio'r byd academaidd a byd gwaith. Gall gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau yn barhaus gael mynediad at adnoddau sydd fel arfer ar gael i fyfyrwyr amser llawn yn unig, a gwerthfawrogir hynny'n fawr.”

Roedd Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio ymhlith y rheini a dderbyniodd dystysgrif ddoe. Meddai Dewi:  “Diolch i'r modiwl, dw i wedi traws newid y ffordd dw i’n cyd-weithio gyda fy nhîm. Mae gen i bellach y dulliau a’r modd i annog staff i ddatblygu i'w gwir botensial, sydd o fantais fawr i'r unigolyn a'r cwmni. Buaswn yn annog rhagor i fanteisio ar y math yma o gwrs er mwyn datblygu eu sgiliau rhyngbersonol.”

Mae Jessica Williams sy’n Ymgynghorydd Busnes Llawrydd wedi cwblhau’r modiwlau hefyd. Meddai: “Rwyf wedi mwynhau’r cyfle i ddatblygu fy nghymwysterau proffesiynol hyd at lefel Meistr.  Rhoddodd y modiwlau gyfle i ddysgu trwy weithgaredd ymarferol, ac ar yr un pryd yn rhoi cyfle i ddadansoddi llenyddiaeth academaidd. Mae’r cyrsiau wedi fy ysbrydoli i weithio tuag at radd meistr llawn”.

Lansiwyd y modiwl Hwyluso ar gyfer Arweinyddiaeth Sefydliadol am y tro cyntaf yn 2015 ac mae’r cydweithio rhwng y Brifysgol a Menter a Busnes yn parhau gyda modiwl Arwain Newid yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2019. Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r 3 modiwl yn gymwys i gael Tystysgrif Ôl-raddedig lawn, Tystysgrif Addysg Uwch.

Am ragor o wybodaeth am Ysgol Fusnes Aberystwyth, ewch i: www.aber.ac.uk/cy/abs

Am ragor o wybodaeth am Fenter a Busnes, ewch i: www.menterabusnes.com

Cynhelir diwrnod agored ar-lein nesaf Prifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 9 Ebrill 2019. Dysgwch ragor a chadwch eich lle yn y Diwrnod Agored yma.