Cyn-fyfyrwyr yn rhannu eu doniau creadigol

(chwith i’r dde): Miriam Elin Jones, Gruffudd Owen a Naomi Nicholas, aelodau newydd Grŵp Dramodwyr Newydd

(chwith i’r dde): Miriam Elin Jones, Gruffudd Owen a Naomi Nicholas, aelodau newydd Grŵp Dramodwyr Newydd

14 Mehefin 2019

Mae tri cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o gynllun cenedlaethol newydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru i ddatblygu crefft awduron llwyfan.

Bydd Gruffudd Owen, Miriam Elin Jones a Naomi Nicholas, sydd yn rhan o griw Grŵp Dramodwyr Newydd yn mynd â ‘Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ‘Sgrifennodd Honna?’ ar daith ledled Cymru gan gyflwyno cyfres o ddarlleniadau o ddramâu newydd.

Maent ymhlith wyth dramodydd newydd a fydd yn cyflwyno darlleniadau o’u dramâu newydd sy’n benllanw ar ddeg mis o waith creu a datblygu’r grefft.

Bydd Miriam yn cyflwyno ‘Nyts, Nagy’yn Ni?’ a Naomi yn cyflwyno ‘Wyau’ yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Fercher 19 Mehefin 2019 am 19:30.

Mae Miriam, sydd wedi cwblhau PhD ar lenyddiaeth ffuglen wyddonol yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, wedi bod yn gweithio gyda thîm newyddiadurol BBC Cymru Fyw yng Nghaerdydd, ac ar fin troi at her newydd fel cyfieithydd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Miriam: “Bydd hi'n brofiad rhyfedd dychwelyd i Aber i weld fy nrama yn cael ei pherfformio yno, yn enwedig a minnau wedi mynd yn aml i Ganolfan y Celfyddydau i weld dramau pobl eraill tra'r oeddwn yn fyfyriwr.”

“Yn ystod fy nghyfnod yn Aberystwyth cefais y cyfle i ddilyn modiwl Ysgrifennu Drama dan arweiniad Branwen Davies (sy'n ddramatwrg uchel iawn ei pharch) yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu, ac mae'r diolch iddi hi a'i hanogaeth mewn gwirionedd 'mod i 'di dal ati i sgriptio yn ogystal ag ysgrifennu rhyddiaith.”

Fe raddiodd Naomi mewn Cymraeg a Drama yn 2017 ac mae bellach yn Athrawes Cymraeg a Drama yn Ysgol y Preseli.

Dywedodd Naomi: “Ro’n i wrth fy modd â’r ‘Tocyn Blwyddyn’ – sef talu am docyn i wylio mwyafrif sioeau neu ddramau oedd yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau - ac adolygu ar ran ‘Critics Aber’ yn ystod fy nghyfnod fel myfyrwraig yn Aberystwyth. Rwy’n ddyledus ac yn sobor o ddiolchgar i Adran y Gymraeg a’r Adran Ddrama, Ffilm a Theledu am bob cyfle, ac am fy sbarduno i ddatblygu a mireinio fy sgwennu. Fe fydd clywed fy ngeiriau ar lwyfan am y tro cynta’n brofiad arbennig dwi’n siŵr, ond tan hynny - pili palas!”

Yn ogystal, gellir gweld perfformiadau ‘Nyts, Nagy’yn Ni?’ ac ‘Wyau’ yn Theatr Ffwrnes, Llanelli nos Fawrth 18 Mehefin am 19:30.

Bydd Parti Priodas gan Gruffudd Owen, Bardd Plant newydd Cymru, yn cael ei chyflwyno yn Theatr y Sherman, Caerdydd nos Fercher 12 Mehefin 2019 am 19:30 ac yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar nos Fercher 3 Gorffennaf 2019 am 19:00.

Bydd taith yr haf yn ymweld â chwe chanolfan ledled Cymru ym mis Mehefin a Gorffennaf 2019.

I gael manylion gweddill y daith, a rhagor o wybodaeth am y dramâu, ynghyd â gwybodaeth am y cast a’r cyfarwyddwyr, ewch i wefan Theatr Genedlaethol Cymru.