Cwsmeriaid yn allweddol i system raddio ansawdd bwyta cig yng Nghymru

Dr Pip Nicholas Davies, arweinydd prosiect BeefQ yn IBERS Prifysgol Aberystwyth yn annerch y gynulleidfa yn y digwyddiad blasu yn y Sioe Frenhinol.

Dr Pip Nicholas Davies, arweinydd prosiect BeefQ yn IBERS Prifysgol Aberystwyth yn annerch y gynulleidfa yn y digwyddiad blasu yn y Sioe Frenhinol.

19 Awst 2019

Mae 1200 o bobl yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn panel blasu cwsmeriaid mewn 20 digwyddiad ar draws Cymru a Lloegr fel rhan o brosiect mawr i sicrhau’r ansawdd bwyta gorau posibl ar gyfer Cig Eidion Cymreig PGI.

Mae prosiect BeefQ, dan arweiniad Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylchedd a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â phartneriaid o’r diwydiant, yn cynnal yr ymchwil er mwyn gweithredu system asesu ansawdd bwyta yng Nghymru i hyrwyddo ansawdd bwyta a gwerth Cig Eidion Cymru.

Nododd ymchwil cwsmeriaid, yn ogystal ag Adolygiad Sector Cig Eidion Cymru yn 2014, ansawdd bwyta fel ffactor allweddol mewn penderfyniadau prynu, gyda siopwyr yn barod i dalu prisiau uwch am gig eidion o ansawdd gwell.

Cefnogir y prosiect gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ei nod yw datblygu system raddio ansawdd bwyta cig i Gymru.

Yn allweddol i hyn mae trosi'r data a gesglir o garcasau cig eidion Cymreig pan fyddant yn cael eu graddio'n weledol yn brofiad ansawdd bwyta i ddefnyddwyr.

Dywedodd Dr Pip Nicholas Davies sy’n arwain y prosiect BeefQ yn IBERS: “Mae amryw o garcasau yn cael eu graddio gan raddiwr ansawdd bwyta hyfforddedig yn y ffatri brosesu, yna cyflwynir amryw samplau o wahanol fathau o garcasau, toriadau a dulliau hongian i gwsmeriaid blasu a gwerthuso o dan amodau wedi’i rheoli. Bydd y digwyddiadau blasu yn para awr a chyflwynir saith sampl o gig wedi’i goginio i gwsmeriaid a gofynnir iddynt roi sgôr yn ôl “blas, breuder a syddlonder.”

Defnyddir y wybodaeth i adeiladu system werthuso ansawdd bwyta i Gymru. 

Fel rhagflas i’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal mewn cydweithrediad â Cholegau Addysg Bellach a Phrifysgol Aberystwyth ym mis Hydref 2019 a mis Chwefror 2020, cynhaliwyd panel blasu arddangos a chyflwyniad gan Dr Rod Polkinghorne yn Sioe Frenhinol Llanelwedd.

Mae Dr Polkinghorne, un o bartneriaid ymchwil BeefQ, wedi bod yn allweddol yn datblygu’r model sydd y tu ôl i system Awstralia ac mae bellach yn gweithio ar draws y byd yn datblygu model Awstralia ar gyfer ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill.

Yn y digwyddiad, disgrifiodd Dr Polkinghorne sut roedd paneli blasu’r cwsmeriaid yn ganolog i ddatblygiad system werthuso ansawdd bwyta cig eidion yng Nghymru.

Dywedodd: “Cwsmeriaid yw ysgogwyr gwerth cadwyn gyflenwi cig eidion ac mae cysondeb ansawdd eu profiadau o fwyta cig eidion yn dylanwadu ar eu parodrwydd i dalu. Mae’n gwneud synnwyr i ni ddefnyddio cwsmeriaid ar gyfer asesu ansawdd bwyta cig.”

Cyflwynwyd tair sampl o gig eidion wedi’u grilio i’r 40 cyfranogwr yn y digwyddiad a gofynnwyd iddynt lenwi holiadur yn ymwneud â phrofiad bwyta pob sampl a’u parodrwydd i dalu am brofiadau bwyta cig eidion o ansawdd.

Yn dilyn panel blasu, rhannodd Dr Polkinghorne fewnwelediadau ar sut y gellir gweithredu system raddio ansawdd bwyta cig o’r fferm i’r fforc yng Nghymru, yn seiliedig ar ei brofiadau gyda system Safonau Cig Awstralia.

Wrth grynhoi, dywedodd Dr Polkinghorne: “Fel diwydiant, mae’n rhaid i ni ddal fyny, ac uniaethu gyda, ein hunig ffynhonnell incwm, ein cwsmeriaid.”

Bydd crynodeb o arddangosiad y panel blasu a chanlyniadau cwsmeriaid ar gael yng Nghylchlythyr BeefQ sydd i’w ryddhau ym mis Awst 2019.