Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyfleusterau, offer ac arbenigedd mewn ymateb i bandemig Covid-19

06 Ebrill 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu cefnogaeth i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) trwy sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau ar gael i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ers dydd Gwener 3 Ebrill, ac am gyfnod o dair wythnos, mae staff y GIG yn mynychu sesiynau hyfforddi yng nghyfleusterau cynhadledda Medrus, gan gynnwys hyd at 300 o staff y GIG sy'n dychwelyd i’w gwaith.

Yn y cyfamser mae Staff y GIG sy'n gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, a gweithwyr y gwasanaethau brys, yn cael llety ym mhreswylfeydd y Brifysgol ar gampws Penglais.

Mae staff Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cael eu hannog i wirfoddoli ar gyfer amryw o swyddogaethau yn Ysbyty Bronglais yn dilyn cais gan y Bwrdd Iechyd lleol.

Yn ogystal, mae tîm o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi mynd â'u holl gyflenwad o offer diogelwch personol i Ysbyty Bronglais, tra bod cydweithwyr yn y Gyfadran Busnes a Gwyddorau Ffisegol yn cynhyrchu penwisgoedd diogelwch ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen.

Dywed yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth;

“Rwy’n falch ein bod yn gallu helpu’r GIG a chefnogi’r gymuned leol a’r rhanbarth ehangach ar yr adeg hynod heriol hon. Mae ein hymateb yn allweddol i’n cenhadaeth ddinesig; defnyddio ein cyfleusterau, ein hoffer a'n harbenigedd i wneud cyfraniadau effeithiol sy'n cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar fywydau pobl. ”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Aberystwyth ac i sefydliadau eraill am yr holl gymorth sydd wedi ei gynnig.”