Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Staff a Myfyrwyr 2020

Enillwyr Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber 2019

Enillwyr Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber 2019

21 Ebrill 2020

Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wedi cyhoeddi eu rhestr fer am eu Gwobrau Staff a Myfyrwyr.

Mae'r gwobrau eleni, a drefnir am y nawfed tro gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda chefnogaeth y Brifysgol, yn cynnig cyfle i gydnabod rhagoriaeth addysgu, dathlu ymarfer da, a chydnabod cyfraniadau staff a myfyrwyr tuag at brofiad myfyrwyr.

Er gwaethaf yr amgylchiadau anodd oherwydd yr achosion o Covid19, derbyniwyd dros 250 o enwebiadau ar gyfer tair ar ddeg gwobr, sy’n cynnwys Darlithydd y Flwyddyn, Aelod Staff Ategol / Gwasanaethu'r Flwyddyn, Tiwtor Personol y Flwyddyn, Myfyriwr-wirfoddolwr y Flwyddyn, Gwobr Addysgu Creadigol ac Adran y Flwyddyn.

Cyhoeddir yr enillwyr ar gyfrifon Facebook a Twitter AberSU a Phrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 30 Ebrill o 7.30yh.

Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Staff a Myfyrwyr UMAber 2019 fel a ganlyn:

Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn

Kate Warren – Ffiseg
Angela Connor – Seicoleg
Frankie Targett - Ffiseg
Joel Adams - Cyfrifiadureg

Addysgu Creadigol

Dr Gillian McFadyen - Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Megan Talbot - Adran y Gyfraith a Throseddeg
Dr Glen Creeber - Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Panna Karlinger - Ysgol Addysg (Tiwtor yn yr Adran Fathemateg)

Adran y Flwyddyn

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Seicoleg
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg

Iwan Davies - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Gwenllïan Jenkins - IBERS

Darlithydd y Flwyddyn

Dr Peadar Ó Muircheartaigh - Adran Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
Dr Daniel Peck - Adran Fathemateg
Yr Athro Andrew Thomas - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Lucy Trotter - Ysgol Addysg
Dr Sarah Higgins - Adran Astudiaethau Gwybodaeth

Gwobr Cam Nesaf

Annabel Latham - Ysgol Addysg
Dr Sinead O’Connor - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Tiwtor Personol y Flwyddyn

Dr Bill Perkins - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Dr Christopher Phillips - Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Dr Justin Pachebat - IBERS
Dr Sinead O’Connor - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn

Panna Karlinger - Ysgol Addysg (Tiwtor yn yr Adran Fathemateg)
Alexandra Brookes - Adran Seicoleg
Rune Murphy - Adran Seicoleg

Aelod Staff Myfyrwyr y Flwyddyn

Khai Jackson - Adran Seicoleg
Cari Metcalfe - IBERS
Liv Freeman-Valle - Adran Seicoleg

Myfyriwr-wirfoddolwr y Flwyddyn

Kaja Brown - Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Daphne Pacey - Adran Hanes a Hanes Cymru

Aelod Staff Ategol/Gwasanaeth y Flwyddyn

Pamela Heidt - Marchnata a Recriwtio Byd-eang
Marian Gray - Marchnata a Recriwtio Byd-eang
Siân Jones - Gwasanaethau Gwybodaeth

Goruchwyliwr y Flwyddyn

Dr Martin Swain - IBERS
Dr Ian Birchmore - Ysgol Fusnes Aberystwyth
Dr Tom Holt - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Dr Jeff Bridoux - Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Myfyriwr-fentor y Flwyddyn

Rezija Madara Fridrihsone - Ysgol Gelf
Dan Lewis - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear