Ymchwil i gyflymu profion Covid-19 er lles gwledydd incwm isel

Dr Arwyn Edwards mewn labordy ym Mhrifysgol Aberystwyth

Dr Arwyn Edwards mewn labordy ym Mhrifysgol Aberystwyth

27 Ebrill 2020

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio ar dechneg i wella’r broses profi am y Coronafeirws mewn gwledydd incwm isel.

Ar hyn o bryd, mae profion ar gyfer y feirws yng ngwledydd Prydain yn cael eu cynnal drwy ddull RT-PCR sy’n dadansoddi RNA y feirws. Er mwyn cynnal y profion hyn, mae angen eu cynnal mewn labordai gan ddefnyddio teclynnau arbenigol mawr a drud.

Mae tîm o ymchwilwyr o dan arweiniad Dr Arwyn Edwards, uwch-ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn arbrofi gyda dull arall o brofi. Byddai’r dull profi hwn yn addas mewn gwledydd lle mae adnoddau profi yn llai hygyrch a gellir cynnal y profion heb yr angen am gyfleusterau firolegol arbenigol. Trefnir ac ariennir yr ymchwil gyda chefnogaeth Canolfan Ymchwil Datblygu Rhyngwladol y Brifysgol drwy Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Wrth siarad am yr ymchwil, meddai Dr Edwards o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae union natur pandemig yn golygu ei fod yn sialens ar gyfer iechyd byd-eang. Mae’n dangos fod iechyd pawb, ledled y byd, wedi’i gysylltu’n agos. Golyga hyn fod angen ymateb byd eang er mwyn diogelu cymunedau. Bydd baich COVID-19 ar ei waethaf mewn ardaloedd lle mae isadeiledd gofal iechyd yn llai datblygedig.  Hyd yma, mae ein gwaith ar COVID-19 yn dangos fod yr offer symudol rydym wedi bod yn datblygu ers 2014 yn edrych yn addawol ar gyfer ei ddefnyddio mewn llefydd anghysbell.

Yr ymchwilwyr sy’n cydweithio ar yr astudiaeth yw Dr Arwyn Edwards, Dr Amanda Clare a’r Athro Luis Mur. Fel rhan o’r project, mae’r ymchwil yn tynnu ar arbenigedd cydweithwyr ledled Prifysgol Aberystwyth, gan ddatblygu ar rwydweithiau datblygedig o bartneriaid rhyngwladol yn ogystal ag arbenigedd mewn bioleg gyfrifiadurol a chlefydau anadlol.

Mae’r gwaith ymchwil hwn yn un o nifer o brosiectau sy’n cael eu cynnal, a chyfraniadau y mae Prifysgol Aberystwyth yn ei wneud, yn y frwydr yn erbyn Covid-19, gan gynnwys rhannu adnoddau, offer ac arbenigedd yn lleol ac yn genedlaethol gyda’r gwasanaeth iechyd.

Ychwanegodd Yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydyn ni’n falch ein bod yn gallu defnyddio'r arbenigedd o fewn y Brifysgol i gyfrannu at yr ymdrechion rhyngwladol i fynd i’r afael â Covid-19. Rydym wedi cyfrannu mewn sawl ffordd fel rhan o’n hymrwymiad fel sefydliad i wneud pob dim y gallwn i gynorthwyo’r ymdrechion i gadw’n cymunedau lleol ac, yn wir, cymunedau ledled y byd yn ddiogel. Fe fyddwn yn dal i drafod gyda’r llywodraeth ac asiantaethau eraill sut y gallwn ni gyfrannu mewn ffyrdd eraill yn ystod y cyfnod hynod heriol hon.”

Dechreuodd y gwaith ymchwil hwn ym mis Mawrth ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau o fewn y misoedd nesaf.