Cyllid ychwanegol ar gyfer ymchwil dementia a cham-drin yn y cartref

Sarah Wydall yw Prif Ymchwilydd prosiect ymchwil Dewis Choice, sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.

Sarah Wydall yw Prif Ymchwilydd prosiect ymchwil Dewis Choice, sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.

09 Medi 2020

Mae prosiect ymchwil sy'n archwilio'r cysylltiad rhwng dementia a cham-drin domestig ymhlith pobl hŷn wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Comic Relief ac Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU drwy’r Gronfa Treth Tampon.

Lansiwyd yr astudiaeth gan y Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth ym mis Awst 2019 gyda chyllid o £70,000 gan Comic Relief am gyfnod o 12 mis yn wreiddiol.

Mae Comic Relief bellach wedi dyfarnu £76,000 yn ychwanegol, gan alluogi ymchwil newydd ar astudiaeth 'Datblygu Canllawiau Cyfreithiol a Rhwydweithiau Cymdeithasol lle mae Trais yn y Cartref a Dementia yn cyd-fodoli' i barhau am naw mis.

Mae canfyddiadau cychwynnol o’r astudiaeth gyntaf yn awgrymu bod pobl hŷn sy'n byw gyda dementia a thrais domestig yn aml wedi'u hynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth cymdeithasol a phroffesiynol, am fod eu tramgwyddwyr yn poeni y gallai hynny arwain at erlyniaeth neu sylw cyhoeddus.

Dywed ymchwilwyr fod angen gweithredu i sicrhau bod dioddefwyr-oroeswyr yn parhau i gael mynediad at gefnogaeth ar gyfer dementia a cham-drin domestig.

Dywedodd Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd prosiect Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae ein hymchwil wedi canfod bod dioddefwyr-oroeswyr a'u teuluoedd yn addasu’n sylweddol ar lefel emosiynol a choorfforol yn sgil cael diagnosis o ddementia, yn ogystal ag wynebu gwahaniaethu ar sail oedran, rhyw ac anabledd wrth chwilio am gymorth.

“Yn anffodus i ddioddefwr-oroeswr sy'n cael diagnosis o ddementia, prin yw'r dystiolaeth o weithio proffesiynol ar y cyd i ddarparu cefnogaeth ar gyfer cam-drin domestig a dementia a hynny er bod ymateb cymunedol cydgysylltiedig yn cael ei gydnabod fel y ffordd fwyaf diogel i gefnogi'r cymhlethdodau sydd ynghlwm â thrais a cham-drin yn y cartref. Mae hyn yn broblem gan fod apwyntiadau a chyfathrebu â'r cleient fel arfer yn cynnwys yr aelod o'r teulu sy’n gyfrifol am y cam-drin ac sy’n gweithredu fel gofalwr."

Yn ystod yr ail astudiaeth, bydd yr ymchwilwyr yn gweithio gyda grŵp o 20 o fenywod 55 oed neu drosodd lle mae dementia a cham-drin domestig yn bodoli dan yr un to.

Yn ogystal â chynnig cefnogaeth uniongyrchol i ddioddefwyr-oroeswyr cam-drin yn y cartref, byddant hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr dementia neu weithwyr proffesiynol o'r gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol i greu ymateb cydgysylltiedig ar gyfer y cleient.

Fel rhan o'r astudiaeth ddiweddaraf, bydd tîm Dewis Choice hefyd yn darparu hyfforddiant i 100 o weithwyr rheng flaen ac wyth o wirfoddolwyr ar lefel gymunedol a chenedlaethol, yn ogystal â 50 o reolwyr gwasanaethau cymorth arbenigol ac ymarferwyr cyfreithiol.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth a rhoi’r sgiliau i ymarferwyr allu adnabod ac ymateb i achosion lle mae dementia a cham-drin domestig yn cyd-fodoli.

Mae'r hyfforddiant hefyd ar gael yn gyhoeddus fel adnodd ar-lein am ddim ar wefan Dewis Choice dewischoice.org.uk/what-we-do/training.

Yn ôl Cymdeithas Alzheimer, mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU ac mae disgwyl i’r ffigwr godi i dros 1 miliwn erbyn 2025.

Mae'r astudiaeth ddementia yn adeiladu ar seiliau prosiect ymchwil Dewis Choice, a sefydlwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2015 i archwilio cam-drin domestig yn erbyn pobl hŷn – problem sy’n aml yn gudd.

Mae gwybodaeth bellach am brosiect Dewis Choice i’w chael ar-lein dewischoice.org.uk, trwy e-bost choice@aber.ac.uk neu ar Twitter @choiceolderppl.

Cafodd erthygl gan Sarah Wydall am y cysylltiad rhwng dementia a cham-drin yn y cartref ei chyhoeddi yn The Conversation ym mis Awst 2020.