Prifysgol Aberystwyth yn gohirio dysgu wyneb yn wyneb dros dro

29 Medi 2020

Yn dilyn trafodaethau gyda phartneriaid lleol ddydd Sul 27 Medi ynglŷn â’r risg cynyddol o ledaenu Covid-19, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud y penderfyniad i ohirio dysgu wyneb yn wyneb dros dro.

Mae’r penderfyniad i ohirio dysgu wyneb yn wyneb dros dro yn weithredol o ddydd Llun 28 Medi.

Meddai llefarydd ar ran y Brifysgol:

“Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd sydd yn rhannol gysylltiedig â’r ansicrwydd i ba raddau y mae’r feirws wedi lledaenu yn ein cymuned.  Y penwythnos hwn rydym wedi derbyn cadarnhad o’r achosion cyntaf yn y gymuned sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol.

“Fe fyddwn yn adolygu ymhellach sut y gallwn symud ymlaen gyda’n cynlluniau i ddysgu wyneb yn wyneb wrth i ni gael rhagor o wybodaeth. 

“Rydym hefyd wedi pwysleisio wrth y myfyrwyr y dylent barhau i:

  • Gadw pellter o 2m bob amser – hyd yn oed o fewn llety myfyrwyr am y tro.
  • Defnyddio gorchudd wyneb pan fyddant dan do – hyd yn oed mewn ardaloedd sy’n cael eu rhannu mewn llety myfyrwyr am y tro.
  • Golchi eu dwylo’n rheolaidd.
  • Gwybod pwy sydd yn gwmni iddynt – mae olrhain cysylltiadau yn achub bywydau.”

“Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a gweithredu'n unol â hynny mewn cydweithrediad agos gydag asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.”