Datblygu rhagolygon paill drwy gyfuno gwyddoniaeth amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus

Dr Gareth Griffith, aelod o’r tîm sydd wedi dangos y cysylltiad posibl rhwng paill rhai rhywogaethau glaswellt a phroblemau iechyd resbiradol.

Dr Gareth Griffith, aelod o’r tîm sydd wedi dangos y cysylltiad posibl rhwng paill rhai rhywogaethau glaswellt a phroblemau iechyd resbiradol.

11 Mawrth 2021

Gall ymchwil newydd sy'n cyfuno data gofal iechyd gyda thechnegau ecolegol arloesol, osod cynllun i wella’r rhagolygon paill yn y dyfodol.

Mae'r rhagolygon paill presennol, sy'n hanfodol i bobl ag asthma acíwt neu glefyd y gwair reoli eu symptomau, yn dibynnu ar fesur cyfanswm paill glaswellt yn yr atmosffer. Ond nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng paill o wahanol fathau o laswellt.

Mae cysylltiad posibl wedi ei ddangos erbyn hyn rhwng paill o rai rhywogaethau glaswellt a phroblemau iechyd resbiradol.

Mae’r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn Current Biology, wedi cael eu cynhyrchu gan y project cyntaf i ddefnyddio dull biofonitro ecolegol o'r enw eDNA ('DNA amgylcheddol') i archwilio'r cysylltiadau rhwng paill yn yr awyr ac iechyd pobl. 

Mae'r ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth, ynghyd â phrifysgolion Bangor, Caerwysg ac eraill, yn rhan o broject ymchwil PollerGEN ar raddfa fwy (a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol), a sefydlodd yn 2019 y defnydd o dechnegau eDNA i nodi gwahanol fathau o rawn paill glaswellt microsgopig.

Mae’r gwaith presennol yn cydfynd â dwy flynedd o gofnodion am ddata iechyd cyhoeddus (derbyniadau i'r ysbyty yn gysylltiedig ag asthma, a meddygon teulu yn rhagnodi triniaethau i alergedd resbiradol a thrwynol) â'r data monitro eDNA ar gyfer paill o wahanol rywogaethau glaswellt a wnaed mewn 14 lleoliad ledled y DU.

Ar rai adegau o'r flwyddyn, rhwng mis Mai a chanol mis Awst mewn mannau tymherus, glaswellt yw'r alergen pwysicaf yn yr awyr agored sy’n achosi clefyd y gwair ac asthma.

Mae’r Dr Gareth Griffith o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn un o awduron yr astudiaeth.

Dywedodd Dr Griffith: “O safbwynt biolegol, mae’n rhyfeddol sut mae rhywogaethau gwahanol o laswellt yn rhyddhau eu paill ar adegau gwahanol o’r flwyddyn ac ar adegau gwahanol o’r dydd. Ac o safbwynt iechyd, mi fyddai’r gallu i ddeall y prosesau yma yn well ac adnabod paill pa laswelltyn sydd fwyaf niweidiol i ddioddefwyr, yn gam mawr ymlaen.”

Eglurodd yr Athro Simon Creer, o Brifysgol Bangor, sy'n arwain yr ymchwil PollerGEN: “Dyma un o’r camau cyntaf a phrawf cysyniad damcaniaethol o broject ymchwil helaeth, a all arwain at ragolygon paill mwy manwl gywir neu ragolygon ar gyfer gwahanol fathau o alergenau.

“Drwy’r byd, mae dros 400 miliwn o bobl yn dioddef o rhinitis alergaidd ac mae dros 300 miliwn yn dioddef o asthma. Mae trin asthma alergaidd yn costio dros £2 filiwn y flwyddyn i'r DU mewn costau uniongyrchol yn unig, felly mae arbedion posib mawr i'w gwneud.”

Dywedodd Dr Francis Rowney, a arweiniodd y rhan data iechyd o'r gwaith pan oedd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerwysg: “Er mai dyddiau cynnar yw hyn, roedd yn hynod ddiddorol darganfod y gall rhywogaethau glaswellt penodol gael mwy o effaith ar iechyd resbiradol na rhai eraill.”

“Proteinau yn y paill yw’r hyn sy’n sbarduno adweithiau alergaidd, ac mae gan rai rhywogaethau glaswellt yr un proteinau alergenig. Mae angen i ni gael gwell dealltwriaeth o sail foleciwlaidd yr alergenau ac adweithiau alergaidd i wneud ymchwil pellach ynglŷn â pha rai yw'r rhywogaethau mwyaf alergenig, ac a oes gwahaniaethau mewn adweithiau rhwng gwahanol bobl."

Roedd y papur ymchwil yn cynnwys gweithio amlddisgyblaethol ar draws sawl sefydliad. Roedd y rhain hefyd yn cynnwys Prifysgol Lund, Prifysgol Caerwrangon, Prifysgol Aberystwyth, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Adran Mathemateg ac Adran Daearyddiaeth, Prifysgol Caerwysg; Allergy UK, Y Swyddfa Dywydd a Phrifysgol Queensland.

Cyhoeddwyd y papur Environmental DNA reveals links between abundance and composition of airborne grass pollen and respiratory health yn y cyfnodolyn Current Biology.