Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i nodi pen-blwydd adran y gyfraith gyntaf Cymru yn 120

Cyn-fyfyrwyr, staff, myfyrwyr a gwesteion arbennig yn y digwyddiad i ddathlu 120 mlynedd o addysgu’r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd ddydd Gwener 10 Mehefin 2022

Cyn-fyfyrwyr, staff, myfyrwyr a gwesteion arbennig yn y digwyddiad i ddathlu 120 mlynedd o addysgu’r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd ddydd Gwener 10 Mehefin 2022

28 Mehefin 2022

Mae adran y gyfraith hynaf Cymru wedi nodi ei phen-blwydd yn 120 gyda digwyddiad mawreddog yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd y cinio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 10 Mehefin 2022 yn dathlu 120 mlynedd o addysgu'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Mynychodd dros 150 o gyn-fyfyrwyr, staff, myfyrwyr a gwesteion arbennig eraill yr achlysur. Y Siaradwr Gwadd oedd y Gwir Anrhydeddus Arglwyddes Ustus Nicola Davies DBE.

Mae dros 9,000 o fyfyrwyr y Gyfraith o bron i gant o wledydd wedi graddio a chychwyn ar eu gyrfaoedd o Brifysgol Aberystwyth. 

Ymhlith cyn-fyfyrwyr yr adran mae nifer o Weinidogion Gwladol, gwleidyddion ac arweinwyr, llawer ohonynt wedi mynd yn eu blaenau i ddatblygu gyrfaoedd nodedig ym myd y gyfraith neu wedi rhagori mewn proffesiynau gwahanol.

Roedd y digwyddiad hwn yn dilyn dathliad a gynhaliwyd yn Llys Troseddol Canolog Cymru a Lloegr (yr 'Old Bailey') yn Llundain fis diwethaf.