Deng mlynedd o rannu ac arddangos arloesedd mewn addysgu

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure (canol) gyda threfnwyr a mynychwyr Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2022

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure (canol) gyda threfnwyr a mynychwyr Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2022

14 Medi 2022

Ymhlith y pynciau a fydd yn cael sylw yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol Prifysgol Aberystwyth, a gynhelir yr wythnos hon, y mae: y potensial i ddefnyddio realiti rhithwir fel adnodd addysgegol; uchafbwyntiau ac isafbwyntiau dysgu gydag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD); gwella ymgysylltiad a chyfranogiad myfyrwyr; a chynorthwyo i feithrin galluoedd digidol myfyrwyr.

A hithau yn ei degfed flwyddyn, mae’r gynhadledd yn dwyn ynghyd ymarferwyr addysgu a dysgu o bob rhan o'r Brifysgol i rannu, a rhoi llwyfan i’r dulliau cyffrous ac arloesol sy’n cael eu defnyddio wrth addysgu. 

Thema Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2022 yw 'Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth’.

Mae digwyddiad eleni, a gynhelir dros dridiau rhwng 12-14 Medi 2022, yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau, gweithdai, arddangosiadau a thrafodaethau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Mae rhaglen eang ac amrywiol y gynhadledd yn seiliedig ar chwe thema: addysgeg gynhwysol a chynaliadwy; dilysrwydd asesu, asesu dilys, ac ymgysylltu ag adborth; sgiliau sgaffaldio ar draws y cwricwlwm a thu hwnt; datblygu cymuned Prifysgol ddwyieithog; gweithio gyda myfyrwyr fel partneriaid i ddylunio dysgu; a dysgu gweithredol yn y dirwedd addysg uwch heddiw.

Meddai Dr James Woolley o'r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu sy'n trefnu'r digwyddiad: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol i'r ddegfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu.  Mae'r gynhadledd flynyddol yn adlewyrchu ymroddiad staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu’r myfyrwyr ac i rannu arferion da ac arloesedd mewn addysgu.

“Mae'r gynhadledd yn amlygu arferion addysgu rhagorol ein cydweithwyr, ond yn ogystal â hynny bydd cyfle i glywed siaradwyr gwadd yn trafod y datblygiadau diweddaraf yn y sector. Eleni, bydd Dr Jennifer Fraser, Dr Moonisah Usman, a Kyra Araneta o Brifysgol Westminster yn ymuno â ni i siarad am waith gan fyfyrwyr a staff i sicrhau gwelliannau sy’n gymdeithasol gyfiawn, a bydd Dr Alex Hope o Brifysgol Northumbria yn trafod ffyrdd o ymgorffori cynaliadwyedd yn y maes llafur.”

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Ers deng mlynedd mae Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gyfle i staff o bob rhan o'r sefydliad glywed siaradwyr ysgogol sy’n eu hysbrydoli ac yn tanio eu creadigrwydd, gan ymuno â thrafodaethau sy’n ysgogi’r meddwl lle gellir rhannu arferion da a syniadau newydd. 

“Fel y dangoswyd gan ein safle diweddaraf yng Nghanllaw Prifysgolion Da’rTimes a’rSunday Times 2022, mae Prifysgol Aberystwyth yn rhagori o ran ansawdd ardderchog yr addysgu a’r lefelau uchel o foddhad myfyrwyr, ac mae digwyddiadau fel ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu yn un o'r ffyrdd y mae ein staff yn buddsoddi mewn gwella profiad myfyrwyr Aberystwyth ymhellach.”