Casgliadau a Threftadaeth

Dros y blynyddoedd rydym wedi bod yn gweithio gyda'n casgliadau a'n cymuned i ddatgelu straeon anhygoel Prifysgol Aberystwyth i'w rhannu gydag ymwelwyr â'r Hen Goleg hanesyddol. Mae rhai o'r rhain i'w gweld yn ein cyhoeddiad diweddar Ceiniogau'r Werin/The Pennies of the People, lle rydym yn trin a thrafod hanes y Brifysgol trwy 150 o wrthrychau. Cyfrol Dathlu’r 150  : Amdanom Ni , Prifysgol Aberystwyth. Edrychwch ar gyfryngau cymdeithasol yr Hen Goleg am ddiweddariadau yn ymwneud â'r prosiect, gan gynnwys ein casgliadau a'n mannau arddangos.

Gallwch wylio recordiadau o weminarau am hanes yr Hen Goleg:  

Gwyliwch ragor o weminarau am hanes Prifysgol Aberystwyth.